Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Myfyrwyr nyrsio 'yn cael eu rhoi ar flaen y gad'
Bydd nyrsys dan hyfforddiant yn gorfod dewis rhwng gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws, neu wynebu saib yn eu hyfforddiant.
Mae'r 成人快手 wedi gweld adroddiad sydd hefyd yn awgrymu y bydd myfyrwyr ail flwyddyn sydd ddim eisiau trin cleifion mewn ysbytai yn gorfod gohirio eu hastudiaethau neu newid cwrs.
Os ydyn nhw'n penderfynu peidio arwyddo cytundebau newydd, fe allai bwrsariaethau'n cael ei dynnu'n 么l tan iddyn nhw ailgydio yn eu hastudiaethau.
Dywedodd un o'r myfyrwyr eu bod yn cael eu rhoi "ar flaen y gad" ond dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai myfyrwyr oedd yn dewis gweithio yn derbyn "cefnogaeth lawn ac yn cael eu goruchwylio."
'Trefn bresennol ddim yn bosib'
Mae disgwyl y bydd hyd at 2,000 o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant yn dechrau ddydd Llun.
Mae 成人快手 Cymru wedi gweld adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy'n cynnwys adran yn cyfeirio at fyfyrwyr ail flwyddyn a rhai sydd yn chwe mis cyntaf eu blwyddyn olaf.
Mae'r adroddiad yn dweud bod "pwysau sylweddol ar y system a bod angen sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn derbyn cefnogaeth lawn".
Oherwydd hynny, meddai'r adroddiad, "dyw hi ddim yn bosib parhau i ddarparu'r rhaglen bresennol i fyfyrwyr."
Dywedodd un myfyriwr, oedd eisiau aros yn ddienw: "Maen nhw wedi cael gwybod os nad ydyn nhw'n dewis gweithio fe fyddan nhw'n colli eu cyllid.
"Maen nhw'n rhoi myfyrwyr ail flwyddyn ar flaen y gad a dydyn nhw ddim wedi cymhwyso.
"Mae pobl yn dweud ei bod hi'n fater o ddysgu wrth weithio, ond dyw'r nyrsys dan hyfforddiant yma ddim yn gyfarwydd 芒 phethau.
"Mae'n hurt. Maen nhw'n mynd i weld pethau ofnadwy."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Mewn neges ar Facebook ar 16 Ebrill roedd AaGIC wedi diolch "i'r 2,000+ o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant sydd wedi dewis gweithio o fewn amgylchiadau clinigol yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Ond dywedodd y myfyriwr dienw bod cyd-fyfyrwyr yn dioddef o dan y straen o orfod ymgymryd a'r dyletswyddau.
"Dydyn nhw ddim yn gallu cysgu ac maen nhw'n gofidio'n arw bod yn rhaid iddyn nhw fynd," meddai.
'Cyfnod ansicr'
Dywedodd cyfarwyddwr nyrsio AaGIC, Stephen Griffiths y byddai unrhyw fyfyrwyr oedd yn dewis gweithio "ddim yn ymgymryd a thasgau nyrs wedi cymhwyso, neu dasgau y tu hwnt i'w gallu", ac y byddan nhw'n cael eu goruchwylio.
Ychwanegodd ei fod yn "deall oherwydd rhesymau personol na fydd rhai myfyrwyr yn gallu dewis gweithio."
"Bydd prifysgolion yn parhau i gefnogi myfyrwyr, trafod yr opsiynau tu hwnt i ddysgu, a'u helpu nhw yn 么l mewn i addysg cyn gynted 芒 phosib os ydyn nhw'n dymuno dychwelyd," meddai.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall bod gan fyfyrwyr bryderon yn y cyfnod ansicr yma ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod modd archwilio pob opsiwn i gefnogi myfyrwyr fel nad ydyn nhw dan unrhyw anfantais o'r sefyllfa bresennol.
"Rydyn ni'n glir iawn y bydd y rheiny sy'n dewis gweithio yn cael cefnogaeth a goruchwyliaeth lawn, ac yn parhau i gael yr amser dysgu penodedig."
Dywedodd y llefarydd bod canllawiau Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ystod cyfnod Covid-19, yn amlinellu y broses i fyfyrwyr ddewis opsiwn allai fod yn addas i'w anghenion unigol.