Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
System brofi Covid-19 ddim wedi bod yn 'ddigon da'
Dyw'r system i brofi am coronafeirws yng Nghymru ddim wedi bod yn "ddigon da" medd y Prif Weinidog.
Wrth amlinellu sut y bydd y broses yn cael ei "symleiddio" dywedodd Mark Drakeford na fydd y llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill.
Dyna oedd yr addewid gwreiddiol roddwyd n么l ym mis Mawrth.
Y capasiti dyddiol ar hyn o bryd yw 1,300 y diwrnod.
Ond mae data diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai dim ond 783 o brofion gafodd eu gwneud ddydd Gwener.
Mae'r ffigyrau dyddiol yn gyson wedi bod o dan 1,000 ac mae Mr Gething wedi cyfaddef nad ydyn nhw wedi gallu "cwrdd 芒'r nod."
Yn dilyn "adolygiad cyflym" o'r system mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi:
- Bydd y llywodraeth yn gweithio tuag at gael system lle bydd modd archebu prawf ar y we
- Dim ond 15 o weithwyr gofal cymdeithasol fesul awdurdod lleol oedd yn cael cymryd y prawf o'r blaen ond bydd y cyfyngiad yma yn dod i ben
- Bydd y broses o brofi gweithwyr hanfodol yn cael ei adolygu yn bellach
- Bydd galw ar y fyddin i ystyried y broses i weld os oes modd ei "chyflymu a'i gwneud yn fwy effeithiol"
Wrth siarad ar raglen 成人快手 Politics Wales dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio y bydd y newidiadau yn helpu "i wneud yn si诺r bod ein systemau yn gweithio mor llyfn 芒 phosib."
Dywedodd bod y system yn fiwrocrataidd am fod gwneud yn si诺r bod y "person cywir o'r gweithlu yn mynd i'r ganolfan brofi, yn y drefn gywir, ar yr amser cywir, yn golygu trefnu."
Mae'r anawsterau yngl欧n 芒 chynyddu nifer y profion wedi bod yn y penawdau wythnos yma.
Roedd yna feirniadaeth bod canolfan i brofi gweithwyr allweddol yng Nghaerdydd ar gau ddydd G诺yl y Banc.
Pan gafodd e'i holi am fethiant y llywodraeth i gynyddu nifer y profion dyddiol dywedodd: "Mae rhai o'r pethau roedden ni wedi gobeithio byddai yn eu lle i'n galluogi ni i gyrraedd y 5,000 (o brofion y diwrnod) heb ddod i fwcl."
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddibynnol ar offer arbennig a chemegyn i brosesu'r profion a bod y cemegyn hwnnw yn brin ar draws y byd.
Doedd Mark Drakeford ddim yn fodlon gosod targed newydd.
Yn hytrach dywedodd bod y llywodraeth yn "hyderus y gallwn ni gynyddu'r niferoedd yn wythnosol" ac y byddan nhw yn dweud bob wythnos faint o brofion sydd wedi eu cynnal.
"Does yna ddim byd wedi bod yn digwydd tu 么l i'r llenni.
"Mae miloedd o brofion wedi digwydd yng Nghymru ac fe fydd miloedd yn fwy o brofion yn digwydd dros yr wythnosau nesaf," ychwanegodd.
Ond mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud nad yw hi "yn opsiwn i beidio cyrraedd y targed profi coronafeirws" dyddiol.
"Er mwyn cyrraedd y targed newydd o 5,000 o brofion Covid-19 y dydd erbyn dydd Gwener felly bydd rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu nifer y profion dyddiol 45% bob diwrnod wythnos yma," meddai.
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr wedi croesawu'r newidiadau mae'r llywodraeth yn bwriadu gweithredu.
'T卯m' i ganolbwyntio ar y profion
Ond mae'n galw am "d卯m ymrwymedig" fyddai yn canolbwyntio yn llwyr ar wneud yn si诺r bod y profion yn digwydd yn effeithiol.
Ychwanegodd bod angen canfod mwy o labordai i brofi ac yna i fod mewn sefyllfa i allu profi'r cyhoedd yng Nghymru.
Ddechrau'r mis cyhoeddodd y llywodraeth gynlluniau i agor pedwar canolfan brofi i weithwyr allweddol. Mae modd i weithwyr yrru i'r canolfannau a chael y prawf yn eu ceir.
Mae dau wedi agor tra bod disgwyl cyhoeddiad yngl欧n 芒'r ddwy ganolfan arall, un yn y gorllewin ac un yn y gogledd "yn y dyddiau nesaf."
Ddydd Iau cafwyd cyhoeddiad y bydd y cyfyngiadau cymdeithasol sydd yn eu lle yn para am dair wythnos arall.
Ar raglen 成人快手 Politics Wales dywedodd y Prif Weinidog y byddai yn ystyried codi'r cyfyngiadau fesul cam.
Gofynnwyd iddo beth fyddai'r camau cychwynnol ac awgrymodd y byddai werth ystyried agor canolfannau siopa gan weithredu'r un ffordd mae archfarchnadoedd yn gwneud sef bod pobl yn ciwio tu allan.
"Rydyn ni yn gweithio ar gynllun yngl欧n 芒 sut y gallwn ni ailagor ysgolion, sut allwn ni wneud yn si诺r bod yna bellter rhwng pobl mewn ysgolion, sut y bydden ni yn dechrau trwy wneud yn si诺r bod y disgyblion hynny sydd fwyaf pwysig yn mynd yn 么l i'r ysgol i ddechrau."
"Byddwn yn gwneud hyn pan mae tystiolaeth feddygol yn dangos ei bod hi'n saff i wneud. Bydd yn digwydd yn raddol ac fe fyddwn ni yn ofalus."