Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nodi pen-blwydd yn 91 trwy efelychu camp Capten Moore
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae dyn o Silian ger Llanbedr Pont Steffan yn bwriadu ceisio efelychu campau'r Capten Tom Moore o Swydd Efrog, trwy gerdded o gwmpas ei gartref 91 o weithiau ar achlysur ei ben-blwydd yn 91 oed.
Mae'r Capten Moore, 99 oed, wedi codi dros 拢18m ar gyfer y gwasanaeth iechyd.
Mae Rhythwyn Evans o fferm Tan y Graig wedi byw yn yr ardal erioed, ac mae'n troi'n 91 oed ddydd Sadwrn.
Fe benderfynodd godi arian ar-lein i'r rheini sydd yn trin pobl 芒 coronafeirws er mwyn dangos ei "werthfawrogiad" o'r gwaith mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud.
Mae cronfa ar-lein wedi cael ei sefydlu i gyd-fynd 芒'r pen-blwydd, gyda'r arian yn mynd at elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Dywedodd Mr Evans: "Mae'r coronafeirws wedi effeithio pawb yn yr ardal hyn.
"Roedd rhaid trio gwneud rhywbeth er gwerthfawrogiad i'r doctoriaid a'r nyrsys a phawb oedd yngl欧n 芒'r bwrdd iechyd yn yr ardal.
"Roedd rhaid dangos ein gwerthfawrogiad drwy wneud rhywbeth."
'Gwirioneddol ddiolchgar'
Mae ei wraig, Gwyneth, yn falch iawn o ymdrechion ei phriod.
"Wy'n teimlo yn browd iawn bod y teulu wedi penderfynu i wneud hyn a bod Rhythwyn yn ddigon iach ac abl i gerdded o gwmpas y t欧 91 o weithiau ar gyfer achos mor deilwng," meddai.
Dywedodd Sarah Jennings o Fwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "wirioneddol ddiolchgar i Mr Evans".
"Mae hyn yn rhywbeth mor anhygoel i'w wneud wrth ddathlu pen-blwydd arbennig ac rydyn ni'n diolch i Mr Evans a'i gefnogwyr am helpu ariannu eitemau allweddol sydd eu hangen ar gyfer lles staff a gwirfoddolwyr," meddai.