Triniaeth plasma arbrofol yn cynnig 'llygedyn o obaith'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae ysbyty yng Nghymru sy'n treialu triniaeth arbrofol ar gyfer cleifion coronafeirws wedi'i disgrifio fel "llygedyn o obaith."

Y nod yw cynnig plasma o waed cleifion sydd wedi gwella'n llwyr i'r sawl sy'n dioddef yn ddifrifol.

Gall y gwrthgyrff yn yr hylif eu helpu i frwydro yn erbyn yr haint.

Gobaith Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd yw dechrau cynnig y driniaeth fel rhan o astudiaeth ymchwil o fewn mis.

Disgrifiad o'r llun, Y bwriad gwreiddiol, medd Dr Stuart Walker, oedd arbrofi ar y cleifion mwyaf s芒l yn unig

Dywedodd Dr Stuart Walker, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mai'r bwriad cychwynnol oedd dim ond arbrofi ar y cleifion oedd wedi'u heffeithio waethaf gan Covid-19.

"Ar hyn o bryd does 'na ddim triniaethau eraill unigol ar gyfer yr feirws ei hun, felly mae hyn yn cynnig llygedyn o obaith," eglurodd.

"Pan fod gyda chi salwch fel hyn ry'ch chi'n cynhyrchu ymateb mewn ffurf gwrthgyrff yn y gwaed. A gall y gwrthgyrff rheiny o bosib lleddfu effaith y feirws ar bobl sy'n dioddef ohono mewn ffordd llawer gwaeth."

Ffynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ymchwil yn cael ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adnabod ac yn ysgrifennu at bobl allai gynnig eu gwaed, gyda'r plasma'n cael ei gasglu a'i brosesu gan Wasanaeth Gwaed Cymru.

Bydd angen i'r rhoddwyr fod wedi derbyn prawf positif o Covid-19 ac wedi gwella yn llwyr ers hynny.

Mae'r hyn a elwir yn 'blasma ymadfer' wedi'i ddefnyddio yn ddyddiol gan y gwasanaeth iechyd i'w helpu 芒 feirysau eraill ers blynyddoedd, yn ogystal 芒 bod yn rhan o'r ymateb dramor i argyfyngau SARS ac Ebola.

Mae 成人快手 Cymru ar ddeall bod nifer o ysbytai eraill ar draws y DU wrthi'n ystyried treialu'r driniaeth hefyd, gyda disgwyl cyhoeddiadau yngl欧n 芒 hyn yn yr wythnosau i ddod.

Disgrifiad o'r llun, Mae staff arbenigol yng Nghymru ar flaen y gad o ran ymchwilio i driniaethau posib, medd Dr Richard Skone

Dywedodd Dr Richard Skone, Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Arbenigol Ysbyty Athrofaol Cymru, eu bod nhw "ar y blaen" yn rhannol oherwydd arbenigedd y staff.

"Ni'n ffodus yma yng Nghaerdydd i gael arbenigwyr sy'n gweithio yn yr ardal yma eu hunain - a thrwy eu gwaith caled nhw ry'n ni o flaen gweddill y wlad yn beth y'n ni'n neud," meddai.

"Gwaith ymchwil sy'n mynd 'mlaen ar y foment i weld be allwn ni neud gyda'r driniaeth 'ma."

"Ond mae siawns galle fe helpu ni gyda'r bobl sy'n methu amddiffyn eu hunain yn erbyn y feirws - ac yn y bobl 'na mae 'na siawns y galle fe wneud gwahaniaeth mawr."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y wlad yn "chwarae rhan arweiniol yn rhaglen y DU" ar gyfer trin cleifion coronafeirws gan ddefnyddio plasma ymadfer.

Yn 么l y gweinidog iechyd Vaughan Gething, "os bydd yn gweithio fe allwn ni fod mewn sefyllfa lle mae modd i ni gael ymateb llawer mwy effeithiol i bobl sydd yn ddifrifol wael."

"A ry'n ni'n gwybod bod 'na gannoedd o bobl sydd yn ddifrifol wael yng Nghymru."

"Mae hyn yn stori newyddion da iawn i Gymru ac mae angen y rheini arnon ni yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dylai pobl fod yn falch iawn o'r gwaith yma."