成人快手

Eisteddfod Capel y Groes yn profi'n llwyddiant rhyfeddol

  • Cyhoeddwyd
Hysbyseb

Mae dros 150 yn cystadlu yn Eisteddfod Capel Y Groes Llanwnnen ger Llanbed heddiw, ac mae'r cystadleuwyr o F么n i Fynwy!

Yn hytrach na gohirio'r Eisteddfod oherwydd coronafeirws, penderfynodd y pwyllgor ei chynnal ar-lein ac mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol yn 么l un o'r trefnwyr, Luned Mair.

"Ni wedi bod yn hysbysebu ar Facebook a Twitter ers 'chydig wythnosau ac yn gofyn i bobl anfon fideos o'u plant yn canu ac yn llefaru atom ni," meddai Luned.

"Ni di cael sioc ryfedda' da'r ymateb! Ni'n ffodus iawn fel Steddfod bo' lot o bobl yn dod i'n cefnogi ni bob blwyddyn, a ni wastad wedi cael cefnogaeth dda o ardaloedd Ceredigion, Sir G芒r a Sir Benfro.

"Ond un o'r pethe sy' 'di synnu ni fwyaf am y nifer sy' 'di cystadlu eleni, yw'r holl ardaloedd sydd wedi cael eu cynrychioli.

"Ma' 'da ni bobl o ardaloedd fel Sir F么n a Rhuthun - mae'n hollol ffantastig!"

Disgrifiad,

Mae Bela a Noa ymhlith rhai o gystadleuwyr ieuenga鈥檙 eisteddfod

Mae Luned hefyd yn credu fod mwy wedi cystadlu eleni yn rhai o'r adrannau na fyddai'n arfer cystadlu yn yr Eisteddfod draddodiadol yn y capel.

Mae yna gystadlaethau llefaru, canu, celf a llenyddiaeth i'r rai dan 12 oed.

Cyflwynydd Cyw, Elin Haf Jones ac Enfys Hatcher Davies yw'r beirniaid, ac maen nhw eisoes wedi pori drwy'r holl ddarnau fideo ac atodiadau, a dewis enillwyr.

'Marathon o sesiwn'

"Fe dreuliodd Elin a finne brynhawn yn beirniadu trwy gyfrwng Zoom gyda'n gilydd," meddai Enfys.

"Roedd hi'n farathon o sesiwn oherwydd bod cymaint o fideos. Doedd neb yn anghofio'i eirie, a doedd dim cop茂au 'da ni chwaith.

"O'dd yr amrywiaeth yn wych yn y fideos, rhai ar y cl么s, rhai ar ben soffa, rhai mewn welis, a rhai hyd yn oed mewn pyjamas a slipars!

"Roedd acenion amrywiol hefyd, sydd yn profi fod Eisteddfod Capel Y Groes eleni wedi rhoi llwyfan i bawb, o berfformwyr profiadol i rai newydd, o bell ac agos."

Bydd yr holl gystadlaethau yn cael eu llwytho ar dudalen Facebook Capel Y Groes yn ystod y dydd.

"Ry'n ni wedi eu golygu nhw. Felly gobeithio y bydd popeth yn gweithio 'da'r dechnoleg ac y byddwn ni yn gallu cyhoeddi'r holl ddarnau gwaith cartref a'r holl gystadlaethau canu a llefaru," meddai Luned.

Bydd y tri buddugol ym mhob categori yn cael eu cyhoeddi ar wefan Clonc360.