Coronafeirws: Rhybudd i filoedd aros gartref

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mark Drakeford mai'r flaenoriaeth yw achub bywydau

Fe fydd 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" yn cael eu cynghori drwy lythyr ddydd Llun i aros yn eu cartrefi am 12 i 16 wythnos.

Ddydd Sul dywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford na ddylai'r bobl dan sylw adael eu tai o gwbl.

Hyd yma mae 12 o bobl yng Nghymru wedi marw ar 么l cael coronafeirws.

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai penderfyniadau i gyfyngu ar symudiadau'r boblogaeth ehangach yn cael eu gwneud ar yr "amser cywir".

Ddydd Llun hefyd fe fydd plant rhieni sy'n gweithio mewn swyddi allweddol yn derbyn gofal mewn canolfannau sydd wedi'u neilltuo gan gynghorau sir.

Bydd plant eraill yn aros gartref.

Fe fydd y 70,000 o'r bobl fwyaf bregus yn derbyn y llythyr oddi wrth eu meddyg teulu neu ymgynghorydd meddygol.

Dywedodd y prif weinidog y bydd y feirws yn ymledu ar raddfa ehangach o hyn allan.

Gofal plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi anfon canllawiau i'r awdurdodau lleol fydd yn darparu canolfannau i ofalu am blant rhieni sy'n gweithio mewn swyddi allweddol.

"Rydym wedi cynghori y dylai ysgolion a lleoliadau gofal fod ar agor i nifer gyfyngedig o blant yn unig," meddai neges ar wefan y llywodraeth.

"Rhaid i ni sicrhau mai'r nifer lleiaf posibl o blant sydd mewn lleoliadau addysgol, gofal plant a chwarae.

"Hefyd, mae angen i ni sicrhau nad yw plant yn cael eu gadael gydag unrhyw un a ddylai fod yn dilyn y canllawiau llym ynghylch cadw pellter cymdeithasol, er enghraifft unrhyw un dros 70 oed neu unrhyw un sydd 芒'r cyflyrau iechyd gwaelodol penodedig.

"Os yw'ch plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim, byddant yn parhau. Ond mae'r ffordd y bydd eich plentyn yn cael y bwyd yma yn dibynnu ar eich ysgol. Cofiwch holi'r ysgol."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Bydd mwy o bobl yn derbyn profion ar gyfer y feirws

Wrth gyfeirio at adroddiadau fod pobl yn heidio i'r mynyddodd a llecynnau glan y m么r ddydd Sadwrn, fe rybuddiodd Mr Drakeford fod y "cyngor yn gwbl glir" sef i gadw draw o eraill.

Dywedodd y byddai'n cwrdd 芒 swyddogion llywodraethau'r DU i drafod y grymoedd sydd ar gael iddo.

"Rwyf yn trafod 芒 llywodraethau eraill i weld pa bwerau sydd gennym ac a ydym yn gallu eu defnyddio.

"Ni fyddaf yn oedi i'w defnyddio pe bai hynny yn angenrheidiol," meddai.