Codi calon drwy godi canu dros y we
- Cyhoeddwyd
Os mai'ch uchelgais ydy canu deuawd gartref yn eich pyjamas efo enillydd y Rhuban Glas, wel dyma'ch cyfle.
I godi calon yn ystod y cyfnod anodd sydd ohoni mae Cymraes o Ynys M么n wedi dechrau tudalen Facebook i gael pobl i gyd-ganu.
Ac yn barod mae miloedd o Gymru wedi - yn cynnwys tenor adnabyddus a Chymry dramor.
Canu yn sied y defaid...
Catrin Angharad Jones gafodd y syniad ar 么l codi ben bore wedi iddi ddeffro a methu mynd yn 么l i gysgu.
Roedd hi'n chwilio am ffordd i godi ysbryd pobl - yn enwedig y to h欧n oedd methu gadael eu cartref oherwydd coronafeirws, nifer wedi arfer canu'n wythnosol mewn addoldy neu ymarfer c么r.
Felly penderfynodd recordio fideo o'i hun yn canu a chyfeilio ambell emyn a'i roi ar Facebook - gan annog pobl gartref i greu harmoni efo hi, neu hyd yn oed recordio fideo eu hunain a'i roi ar y dudalen.
Un o'r rhai cyntaf i gyfrannu oedd y ffermwr a'r tenor adnabyddus Aled Wyn Davies, Llanbrynmair, sy'n aelod o'r Tri Tenor Cymru. Ac mae ei recordiad - yn sied y defaid - wedi bod yn boblogaidd.
Meddai Catrin, sy'n byw yng Ngaerwen: "Wnaeth Aled recordio llinell tenor yr emyn d么n Rhys ac mae pobl wedi gwirioni. Dwi wedi cael sawl un yn gyrru neges yn dweud eu bod wrth eu bodd o fedru canu deuawd efo Aled!
"Mae'r ymateb yn anhygoel. Mewn 24 awr mae bron i 5,000 o bobl wedi edrych ar y dudalen ac mae 'na 100 yn braf wedi cyfrannu.
"Mae rhywun wedi postio Cymanfa Ganu Dewi Sant Melbourne, a rhywun o Sbaen wedi dweud eu bod wrth eu bodd yn clywed emynau Cymraeg a'i fod yn help i Gymru dramor ar hyn o bryd."
Cynnig cymorth a chefnogaeth
Bwriad Catrin - sy'n gantores ei hun ac wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel - ydi creu rhywbeth fydd o gymorth i bobl sy'n gorfod aros gartref oherwydd y coronafeirws.
"Y syniad ydi cael emynau gan fod pobl yn gyfarwydd efo'r alawon, i drio atgyfnerthu'r canu pedwar llais sy'n cael ei golli, ac i wneud yn si诺r bod y to h欧n yn gallu ymuno gan mai nhw fwy na neb sy'n gorfod hunan-ynysu.
"Heddiw, mae'n ddiwrnod yr altos - felly 'da ni'n trio cael altos i recordio llinell, efo neu heb gyfeiliant, fel bod pobl yn gallu canu'r alaw a chyd-ganu adra.
"Maen nhw'n gallu canu fel deuawd neu fydd rhai teuluoedd yn gallu gwneud y tri llais arall.
"Fory, mi rydan ni am gael diwrnod Sol Ffa, Sul y Mamau fydd ganddo ni ganeuon teyrnged, i drio amrywio pethau. Mae pobl yn rhoi bob math o ganeuon yn barod.
"Mae'n rhywbeth bach i godi ysbryd pawb."
Hefyd o ddiddordeb: