Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canslo llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw
Bydd llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw yn cael eu canslo yng Nghymru o achos coronafeirws, wrth i'r gwasanaeth iechyd baratoi am gyfnod heriol.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys yn fater o wneud "y penderfyniadau cywir ar yr amser cywir."
Bydd apwyntiadau cleifion allanol hefyd yn cael eu gohirio am y tro.
Mae targedau amseroedd aros monitro perfformiad adrannau hefyd yn cael eu llacio.
Beth yw'r camau?
Amlinellodd y prif weinidog nifer o gamau, yn cynnwys:
- Gohirio apwyntiadau allanol sydd ddim yn rhai brys er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau eraill;
- Gohirio llawdriniaethau a thriniaethau sydd ddim yn rhai brys;
- Blaenoriaethu trafnidiaeth i gleifion i ganolbwyntio ar ryddhau cleifion o ysbytai ac ymateb galwadau brys ambiwlansys;
- Hwyluso'r gwaith o ryddhau cleifion bregus o ysbytai gofal dwys ac ysbytai cymunedol;
- Llacio targedau a threfniadau monitro ar draws y gwasanaeth iechyd a gofal;
- Lleihau gofynion rheoleiddio lleoliadau iechyd a gofal;
- Cyflymu lleoliadau cleifion i gartrefi gofal drwy gael gwared ar y protocol presennol sy'n rhoi cyfle i glaf ddewis cartref gofal;
- Rhoi caniat芒d i ganslo digwyddiadau mewnol, yn cynnwys cyfnodau o'r gwaith i astudio, i ryddhau staff ar gyfer paratoadau;
- Llacio trefniadau cytundebu a monitro at gyfer meddygon teulu a gweithwyr gofal rheng flaen;
- Atal cefnogaeth wirfoddol staff gwasanaethau brys y GIG ar gyfer digwyddiadau torfol a digwyddiadau eraill.
Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai angen ystyried lleihau gweithgareddau oedd wedi'u cynllunio, gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol.
Dywedodd uwch ymgynghorydd gofal dwys wrth 成人快手 Cymru fod gwl芒u a staffio mewn ysbytai dan bwysau sylweddol, gan fod unedau gofal dwys wedi bod yn gweithio gyda chapasiti o 90% yn gynharach yn yr wythnos.
Esboniodd Dr Jack Parry-Jones, aelod Cymru ar fwrdd Cyfadran Meddygaeth Gofal Dwys fod Cymru yn "unigryw o ran risg" petai 'na gynnydd sydyn mewn cleifion oedrannus.
Ychwanegodd mai'r dewis fyddai cwtogi niferoedd y llawdriniaethau arferol a throi theatrau llawdriniaethau i gyfleusterau gofal dwys ychwanegol.