Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd i deithwyr Flybe 'beidio mynd i'r maes awyr'
Mae cwmni awyrennau Flybe, oedd yn hedfan i nifer o leoliadau o Faes Awyr Caerdydd, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Yn gynharach eleni roedd Flybe ynghanol trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu eu dyfodol.
Ond nid oedd yr ymdrech yma yn ddigon i sicrhau parhad y cwmni, a nawr mae hyd at 2,000 o swyddi yn y fantol.
Mae tua 330,000 o deithwyr bob blwyddyn yn hedfan gyda Flybe o faes awyr Caerdydd i leoliadau yn Ewrop a Phrydain.
Does dim awyrennau gan Flybe yn hedfan o'r maes awyr ac mae'r cwmni wedi rhybuddio teithwyr i beidio â dod i'r maes awyr chwaith oni bai eu bod wedi archebu i hedfan gyda chwmni arall.
Effaith y coronafeirws
Mae'n debyg fod y cwmni wedi dioddef yn sgil ymlediad coronafeirws ledled y byd, gan olygu fod llai o bobl yn fodlon teithio dramor.
Dywedodd un ffynhonnell wrth y ³ÉÈË¿ìÊÖ fod y feirws wedi gwneud "sefyllfa anodd yn amhosib" i Flybe.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Roedd y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips yn un o'r teithwyr oedd i fod i hedfan o Gaerdydd i Baris ar gyfer gwyliau i Disneyland gyda'i wraig a'i ferch fach.
"Fe gawson ni wybod i beidio mynd i'r maes awyr drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Flybe," meddai.
Ychwanegodd nad oedd wedi clywed "unrhyw beth" yn uniongyrchol gan y cwmni.
"Rydyn ni'n aros i siarad â Disney nawr," meddai. "Roedd e'n becyn drwyddyn nhw."
Fe allai tranc y cwmni gael effaith ar fusnes Maes Awyr Caerdydd ond fe fydd hediadau i Ynys Môn, Aberdeen a Teesside yn parhau dan Eastern Airways.
Mae cwmni Logan Air hefyd wedi dweud y byddan nhw'n cymryd llwybrau Flybe yn yr Alban, gan gynnwys yr hediadau rhwng Caeredin a Chaerdydd.
Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Deb Rees y bydd y newyddion yn cael "effaith mawr" ar y busnes ond fod y maes awyr mewn sefyllfa gref i ddelio gyda cholli Flybe.
"Rydyn ni mewn sefyllfa llawer cryfach i ddelio gyda hyn nawr ac mae Flybe wedi chwarae rhan bwysig yn ein galluogi ni i gyrraedd y sefyllfa yma," meddai wrth raglen Claire Summers ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales.
'Nid yw Caerdydd mewn perygl'
Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth fod "Flybe wedi cael effaith bositif iawn ar Faes Awyr Caerdydd, gan gyfrif am 24% o'r teithwyr".
Ychwanegodd y datganiad fod yr "incwm sy'n deillio o deithiau Flybe yn cynrychioli tua 5.6% o'i refeniw" ac "er y bydd hi'n anodd i Faes Awyr Caerdydd wynebu'r golled hon nid yw mewn perygl".
Dywedodd y gweinidog fod Maes Awyr Caerdydd mewn trafodaethau gyda chwmnïau awyr am gyfleoedd i gymryd cyfrifoldeb am gyn lwybrau teithio Flybe o Gaerdydd.
"Rydym yn canolbwyntio am y tro ar sicrhau darpariaeth yn lle'r llwybrau teithio domestig craidd yr arferai Flybe eu darparu ar gyfer y rhanbarth. Rwy'n falch iawn fod Logan Air eisoes wedi cytuno i dderbyn y cyfrifoldeb am dros 16 o lwybrau teithio, gan gynnwys y llwybr teithio rhwng Caeredin a Chaerdydd," meddai'r datganiad.
Cwestiynu'r llywodraeth
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu gwerth y maes awyr yn y gorffennol ond dywedodd eu llefarydd ar drafnidiaeth, Russell George fod methiant Flybe yn "newyddion dinistriol" i deithwyr.
"Rydw i'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n sydyn i sicrhau'r llwybrau gyda chwmnïau eraill a sicrhau swyddi staff yn ogystal â chefnogi Maes Awyr Caerdydd," meddai.
Ychwanegodd Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, ei bod yn bryderus am yr effaith y gallai hyn gael ar y maes awyr.
"Bydd cwestiynau difrifol nawr angen eu gofyn i Lywodraeth Cymru am eu proses diwydrwydd wrth roi'r cyllid diweddaraf i'r maes awyr o ystyried bod sefyllfa ariannol fregus Flybe wedi bod yn hysbys ers sbel."
Roedd Flybe yn hedfan i leoliadau ar hyd y DU ac Ewrop o Gaerdydd gan gynnwys Belfast, Berlin, Chambery, Corc, Dulyn, Caeredin, yr Algarve, Genefa, Milan, Munich a Pharis.
Roedd pencadlys y cwmni yng Nghaerwysg ac roedd Flybe yn gyfrifol am gludo wyth miliwn o deithwyr yn flynyddol i leoliadau gwahanol.
Flybe oedd cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop cyn iddo fynd i'r wal.
Daw'r newyddion diweddaraf fisoedd yn unig wedi i gwmni teithio arall, Thomas Cook, fynd i'r wal yn dilyn trafferthion ariannol a methiant i sicrhau cyllid pellach.
Mae'n golygu rhagor o ansicrwydd i Faes Awyr Caerdydd, oedd eisoes wedi cyhoeddi colled cyn treth o £18.5m y llynedd.
Yn dilyn hynny dywedodd Llywodraeth Cymru - a brynodd Faes Awyr Caerdydd yn 2013 am £52m - eu bod yn ystyried rhoi benthyciad pellach o £6.8m i'r maes awyr.