Dau Begwn Lleuwen Steffan
- Cyhoeddwyd
Tra roedd ei halbwm diweddaraf Gwn Glan Beibl Budr yn cael llwyddiant a chlod, roedd y gantores Lleuwen Steffan yn treulio amser yn yr uned seiciatryddol yn yr ysbyty yn Morlaix, Llydaw.
Bu'n delio gydag anhwylderau bwyta wrth iddi geisio deall a rheoli ei chyflwr iechyd meddwl.
Bu'r cerddor, sydd newydd symud yn 么l i Lydaw ar 么l cyfnod o fyw ym Merthyr Tudful yn trafod ei chyflwr am y tro cyntaf ar raglen Beti a'i Phobol ar 成人快手 Radio Cymru.
"Os ydw i'n sticio at y feddyginiaeth mae gen i fywyd call," meddai.
"Y duedd yw bod rhywun yn meddwl bod nhw'n iawn ac felly'n dod off y feddyginiaeth. Tydi hynny byth yn gweithio."
Cafodd Lleuwen Steffan ddiagnosis anhwylder deubegwn - bipolar disorder - yn 27 oed ac fel sy'n gyffredin gyda'r cyflwr, mae wedi bod yn anodd iddi dderbyn y diagnosis.
"Mae'r lithiwm yn gwneud imi deimlo llai. Ond heb y lithiwm, mae rhywun yn trio ffeindio ffisig mewn ffyrdd eraill," meddai.
"Mae wedi bod yn sawl peth i mi ar hyd y blynyddoedd... cam-ddefnyddio bwyd yn bennaf. "
Y Stafell Fyw
Yn Mawrth 2018 aeth Lleuwen am gymorth i'r Stafell Fyw yng Nghaerdydd - y ganolfan adferiad sy'n trin dibyniaethau o bob math.
Dim ond ers iddi fynychu'r ganolfan mae hi wedi dechrau cymryd y camau priodol i wella.
"Yn y Stafell Fyw dwi wedi bod mewn therapi gr诺p gyda phobl sy'n gaeth i bob math o bethau - rhyw, gamblo, alcohol, bwyd, cyffuriau... er bod ein dibyniaethau yn wahanol, yr un angen sydd yna yn y pendraw. Ac rydym ni'n cynnal ein gilydd.
"Pan ges i'r diagnosis am anhwylder deubegwn yn 2007 roedd gen i'r holl bethau ma'n digwydd ar yr un pryd. Roeddwn yn trio eu trin nhw ar fy mhen fy hun. Roedd yr ysbyty newydd roi'r diagnosis imi ac roedd gen i broblem fwyd erchyll ar ben hynny.
"Ac er imi wella o'r broblem honno am y tro, nes i ffeirio'r broblem gyda wisgi - heb imi sylwi hyd yn oed. Roeddwn i'n eu gweld nhw fel problemau ar wah芒n. Roedd yn ormod imi ddelio gyda nhw i gyd felly nes i ddim delio efo'r un."
Effaith ar greadigrwydd
Wrth iddi gael ei holi am gysylltiad creadigrwydd gydag uchelfannau'r anhwylder deubegwn, mae'r gantores yn ymateb yn gwbl onest.
"Dydi o ddim werth o - tydi creadigrwydd yr uchelfannau ddim werth o. Mae'n fwy cynhyrchiol cymryd meddyginiaethau a chael creadigrwydd llai tanllyd, mwy gwastad.
"Fel arall mae yna gyfnodau hir o fethu creu dim byd achos 'da chi rhy s芒l. Dw i'n treulio'r rhan fwyaf o fy amser yn delio gyda'r cyflwr. Os ydw i'n ymlacio gormod yn hynny o beth dwi'n mynd yn 么l i fy hen driciau.
"Beth bynnag, dw i methu gwneud dim byd pan dw i'n uchel fy nghloch," meddai Lleuwen Steffan.
"Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn rhy araf a doeddwn i methu deall pam bod neb yn deall beth o'n i'n deall - yn gweld c么ds ym mhob man oedd yn cysylltu popeth efo'i gilydd.
"Mwya' sydyn wedyn mae popeth yn troi ar ben i lawr. Y gwrthwyneb. Pob brwdfrydedd yn troi i ddim a phopeth yn troi mor araf. 'Da chi'n methu dod allan o'r gwely a ddim isio gweld neb.
"Mae brwsio gwallt ar 么l cyfnod fel yna yn beth mor hyfryd... fel cliro' fy ngwely, mynd a'r ci am dro, gwneud paned. Pan da chi wedi bod yn s芒l mae pleserau mawr yn y pethau syml a dwi'n ddiolchgar mod i wedi cael y profiadau yma yn y pendraw achos mod i'n gweld yr harddwch."
Gobaith Lleuwen wrth wneud y cyfweliad ydi bod trafod ei phrofiad yn agored yn gallu bod o fudd i eraill - ac iddi hi a'i theulu yn y dyfodol.
"Mae'r plant yn gwybod. Oherwydd y tro diwethaf....
"Ac mae 'na lawer o'r cyfnod hwnnw na fedra i gofio fy hun. Ond maen nhw yn cofio.
"Os bydd y recording yma yn fflotio o gwmpas fydda ni'n gallu mynd n么l ato ac atgoffa ein gilydd mai onestrwydd fel hyn sy'n allweddol i adferiad. Dw i byth isio cael fy nhemtio i gelu'r pethau hyn eto. Dw i'n ddiolchgar iawn i'r Stafell Fyw am agor y drws imi."
Hefyd o ddiddordeb: