Cwyno am fynediad anabl i drenau Cymru

Ffynhonnell y llun, Joshua Reeves

Disgrifiad o'r llun, Joshua Reeves ger gorsaf Grangetown yn y brifddinas

Mae dyn sydd 芒 pharlys yr ymennydd yn dweud "nad yw'n teimlo'n ddynol" gan nad oes modd iddo fynd ar drenau.

Nid oes modd i Joshua Reeves, 23, gyrraedd y platfform mewn nifer o orsafoedd ar draws Cymru o achos grisiau a diffyg mynediad.

Er bod gwelliannau'n cael eu cyflwyno, nid oes gan 21% o orsafoedd trenau Cymru fynediad di-risiau i deithwyr.

Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain eu bod nhw'n awyddus i wella holl isadeiledd eu rhwydwaith er mwyn caniat谩u mynediad i bawb.

Mynediad

Y bwriad oedd i bob un o drenau'r DU fod 芒 mynediad lawn i bawb erbyn Ionawr 2020, o dan safonau newydd gafodd eu cyflwyno gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Ond mewn rhai achosion nid oes modd i bobl anabl gael mynediad i gerbydau ar rai trenau, ac mae gan rai gorsafoedd risiau serth heb gymorth lifft neu rampiau pwrpasol.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o 拢20m ar gyfer gwella mynediad mewn 124 o orsafoedd yn y DU - gyda 119 o'r rhain yn Lloegr.

Gyda dim ond pedair gorsaf yng Nghymru ar y rhestr - Grangetown yng Nghaerdydd, Llanilltud Fawr, Castell-nedd a Phont-y-p诺l a New Inn - mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo llywodraeth y DU o "dan-fuddsoddi" yng Nghymru.

Un orsaf yr yn Alban - Anderston - oedd ar y rhestr.

Disgrifiad o'r llun, Joshua Reeves ar waelod y grisiau yng nhorsaf Grangetown

Pan geisiodd Joshua Reeves ddal tr锚n i Cheltenham o'i orsaf leol yn Grangetown, Caerdydd, roedd yn wynebu grisiau serth.

Edrychodd am lwybr arall gan geisio dod o hyd i lifft i'r platfform, ond cafodd glywed nad oedd mynediad arall i'r platfform.

"Gwnaeth i mi deimlo fel dinesydd eilradd, gwnaeth i mi ofyn 'ydwi'n ddynol?, ydw i'n deilwng i fynd allan yn y gymuned, oes hawl gen i?'," meddai.

O dan arian gan lywodraeth y DU, sydd wedi ei ariannu'n gyfatebol gan Lywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Grangetown a thair gorsaf arall i fod i weld gwelliannau erbyn 2024.

Ond dywedodd Mr Reeves fod gwelliannau anabledd yn cymryd blynyddoedd i'w cwblhau.

"Dwn i ddim pa mor hir fyddai fyw ac rwyf am weld llefydd," meddai.

"Dydw i ddim yn gofyn am hofr-fwrdd ar fy nghadair olwyn. Dwi mond am allu fynd ar dr锚n."

Grisiau mewn gorsafoedd

Yn 么l astudiaeth ddiweddar gan D欧'r Cyffredin, does gan 79% o orsafoedd yng Nghymru ddim grisiau, sydd yn uwch na chyfartaledd Prydain o 61%.

Dywed Mr Rees er bod nifer o orsafoedd wedi eu disgrifio fel rhai sydd gyda mynediad rhwydd, nid dyma'r achos gan fod gan rai ohonynt nifer o risiau neu leoliadau anodd eu cyrraedd.

Dywedodd fod gorsaf Parc Ninian, yr orsaf ar gyfer gemau p锚l-droed Caerdydd yn "ddychrynllyd" o achos y bryn serth sydd yno, tra mai dim ond un ramp sydd yn yng ngorsaf Lefel Uchel Mynydd Bychan, ar gyfer Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae cwmn茂au trenau yn cynnig tacsis neu fysus am ddim i gludo teithwyr i'r gorsafoedd agosaf os nad oes mynediad iddyn nhw allu adael trenau, ond rhaid rhoi 24 awr o rybudd.

Dywedodd Mr Reeves ei fod wedi methu cyfarfodydd yn aros am dacsis i'w gludo i leoliadau, wedi iddo fethu a chael mynediad pwrpasol i allanfa er mwyn gadael yr orsaf gywir.

"Efallai fod pobl yn credu fod hyn fel derbyn triniaeth V.I.P., ond dyw e ddim - mae'n erchyll. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel dinesydd ail ddosbarth."

Dywed yr elusen anabledd Leonard Cheshire na fydd holl orsafoedd y DU yn ddi-risiau hyd at 2070 os yw gwelliannau'n parhau ar y raddfa bresennol.

Yn 么l Rhian Stangroom-Teel o'r elusen, mae mynediad i orsafoedd wedi dioddef blynyddoedd o "dan-fuddsoddi difrifol" ac mae'n rhaid i holl deithiau trenau gael mynediad llawn i bob teithiwr yn y 10 mlynedd nesaf.

Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau trenau Cymru, ond maen nhw wedi cytundebu'r gwaith i gwmni preifat.

Network Rail, sef cwmni hyd braich i lywodraeth y DU, sydd yn gyfrifol am isadeiledd y rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais am 拢1m o arian i wneud gwelliannau mewn 30 o orsafoedd eraill, gan gynnwys gosod rampiau newydd, palmentydd arbennig i'r deillion a thoiledau 芒 mynediad i'r anabl.

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cymru Ken Skates: "Mae gorsafoedd gyda chefnogaeth gymunedol gryf wedi eu heithrio o fuddsoddiadau".

"Yn anffodus dyma enghraifft arall lle mae teithwyr yn mynd i deimlo effaith tanfuddsoddi parhaus llywodraeth y DU mewn gorsafoedd yng Nghymru."

Dywedodd Network Rail eu bod nhw wedi eu hymrwymo i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd rheilddoedd ar draws Cymru ac y byddai diweddaru gorsaf Grangetown yn dod a "buddion niferus i ddefnyddwyr yr orsaf."