成人快手

Oriel luniau: Difrod Storm Dennis

  • Cyhoeddwyd

Dros yr wythnos ddiwethaf mae cymunedau ar draws Cymru wedi bod yn dygymod ag effaith Storm Dennis.

Fe welodd rhannau o dde Cymru lifogydd sylweddol y penwythnos diwethaf gyda Heddlu De Cymru yn cyhoeddi "digwyddiad difrifol". Y gred yw bod gwerth mis o law wedi disgyn mewn cyfnod o 48 awr yn unig.

Daeth y dinistr wythnos yn unig wedi i Storm Ciara hefyd greu difrod ar hyd a lled Cymru.

Mae'r lluniau yma'n dangos grym y storm ddiweddaraf a dygnwch y cymunedau gafodd eu heffeithio.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Achub un o drigolion Nantgarw a'i chi ar 么l i'r afon Taf orlifo yn sg卯l Storm Dennis

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gardd gefn dan dd诺r yng Nghwmbach, Rhondda Cynon Taf, brynhawn Sadwrn, 15 Chwefror

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Glaw Storm Dennis yn achosi i'r afon Taf orlifo ym Mhontypridd a'r tai ar Stryd Sion dan dd诺r

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Achub pobl a'u c诺n yn Nantgarw

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clwb bowlio yn Ffynnon Taf, i'r gogledd o Gaerdydd

Ffynhonnell y llun, Tracey Newman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

T欧 dan dd诺r yn Nantgarw

Ymateb Alun Thomas, Newyddion 成人快手 Radio Cymru

"Mae'r Taf yn afon nwyfus

Ofnadw o gynhyrfus"

Golygydd Materion Cymreig 成人快手 Cymru, Vaughan Roderick, atgoffodd ni ar Twitter fore Sul o un o Dribannau Morgannwg yn cyfeirio at rym afon Taf.

Doedd dim angen atgoffa trigolion Pontypridd, Trefforest, Nantgarw a Ffynnon Taf o hynny, wrth iddyn nhw orfod dygymod ag effaith storm Dennis. Fe gododd yr afon i'w lefel ucha' erioed, gan lifo i gartrefi a busnesau.

Ar un adeg ddechrau'r wythnos, roedd dros hanner cant o fusnesau a sefydliadau ynghau ynghanol tref Pontypridd. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd rhai o'r rheini wedi llwyddo i ail-agor - i eraill mae maint y difrod yn golygu bydd yn cymryd rhai misoedd i ddod yn 么l ar eu traed.

Ond er y difrod, mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld ymdrechion aruthrol gan y gymuned i adfer y sefyllfa.

Erbyn bore Llun, roedd prif stryd Pontypridd yn ferw gwyllt o glirio, gyda loriau yn cludo sgipiau niferus mewn a mas o ganol y dref, wrth i'r gwaith glanhau ddechrau. Fe dyrrodd gwirfoddolwyr o bob cyfeiriad i helpu - i frwsio a chario, i gynnig paned a bwyd. Ac roedd yr arian yn llifo hefyd - mae sawl ap锚l wedi'u sefydlu arlein, a miloedd wedi cyrraedd y coffrau.

Efallai bod yr afon nwyfus wedi cael y gorau o bobl Pontypridd am gyfnod y penwythnos diwetha', ond mae'r ymdrechion i gael y dref yn 么l ar ei thraed wedi hen ddechrau.

Ffynhonnell y llun, Lee Dainton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd modd can诺io ar y cae p锚l-droed yma yng Nghwmbr芒n wedi'r llifogydd

Ffynhonnell y llun, BEN STANSALL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwasanaethau brys De Cymru yn achub pobl o'u cartrefi yn Nhrefynwy

Ffynhonnell y llun, BEN STANSALL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arwydd yma yn dweud y cyfan - mewn maes parcio ceir yn Nhrefynwy

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng Nghrughywel, cafwyd y llifogydd gwaethaf mewn 40 mlynedd ar 么l i afon Wysg orlifo a dinistrio cartrefi a busnesau. Bu pont y dref ar gau am ddyddiau ar 么l i ran ohoni gael ei difrodi gan lif y d诺r

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Help llaw i fynd drwy strydoedd Aberpennar

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wedi'r dilyw... Rachel Cox yn gweld y difrod i'w chartref yn Nantgarw

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mwd tu fewn i gar yn Nantgarw wedi i'r d诺r gilio

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tirlithriad ym Mhendyrus, y Rhondda. Roedd yr awdurdodau yn archwilio tomeni glo yn y dyffryn wedi'r storm

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar 么l i'r d诺r gilio, fe ddechreuodd y gwaith budur o glirio'r mwd a'r llanast - fel yma ym Mhontypridd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhoddion i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd yng nghanolfan gymunedol y Trallwn, Pontypridd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr ymateb yn Ffynnon Taf wedi i'r gwasanaethau brys alw am ddeunyddiau i helpu y rhai a oedd wedi dioddef yn sg卯l y storm

Hefyd o ddiddordeb: