Galw ar gynghorau i 'ddilyn esiampl Gwynedd' gyda'r iaith

Mae angen i fwy o gynghorau ddilyn esiampl Gwynedd a gweithredu'n fewnol drwy'r Gymraeg er mwyn ceisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dyna farn Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, a ddywedodd bod Ynys M么n yn symud tuag at y cyfeiriad cywir a'u bod yn agosach at y nod na chynghorau fel Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Ychwanegodd y comisiynydd fodd bynnag bod "darlun cymysg" pan oedd hi'n dod at gryfder yr iaith hyd yn oed mewn siroedd fel Gwynedd.

Ac fe rybuddiodd bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd, yn hytrach na dim ond medru ei siarad.

'Anffodus' nad oes mwy

Yn 么l y Cyfrifiad diwethaf yn 2011 roedd 73% o drigolion Gwynedd yn gallu siarad Cymraeg, y canran uchaf o blith holl siroedd Cymru.

Mae'r awdurdod lleol yno yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog, ond yn defnyddio Cymraeg ran fwyaf yn eu gwaith mewnol.

"Mae beth rydych chi wedi'i wneud fel cyngor o ran eich gweithdrefnau mewnol yn galonogol, ac mae lle i ni ledaenu'r arferion da hynny ar draws Cymru," meddai'r cyn-AC wrth bwyllgor iaith y cyngor ddydd Iau.

"Pan gawson ni ddatganoli yn 1999 dim ond un awdurdod lleol oedd yn gweithredu drwy'r Gymraeg, ac yn anffodus mae hynny'n wir hyd heddiw.

"Dwi eisiau eich canmol chi am eich gwaith ac mae lle hefyd i fabwysiadu'ch polisi addysg chi mewn llefydd eraill, ond dwi'n meddwl bod angen trafodaeth onest ar draws Cymru am y gwendidau hefyd."

Disgrifiad o'r llun, Cyngor Gwynedd ydy'r unig awdurdod lleol sy'n gweithredu'n fewnol bron yn llwyr yn y Gymraeg

Rhybuddiodd fodd bynnag fod perygl y gallai'r Gymraeg ddilyn llwybr y Wyddeleg, gyda dros filiwn a hanner o bobl yn medru'r iaith ond canran fechan iawn yn ei defnyddio o ddydd i ddydd.

"Bydd y frwydr yn cael ei hennill yn y cartref ac yn y gwaith, nid o reidrwydd oherwydd statws," meddai.

Ychwanegodd Mr Roberts fod angen edrych eto ar gategoreiddio ysgolion, a sicrhau bod plant o gartrefi di-Gymraeg sydd yn rhugl erbyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgol uwchradd yn cael digon o gyfle i'w defnyddio.

"Mae angen i ni gael trafodaethau gonest ar beth sy'n digwydd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod plant ddim yn cael yr argraff fod y Gymraeg ddim ond yn bwysig yn yr ystafell ddosbarth," meddai.

"Allwn ni ddim dibynnu'n llwyr ar gael penaethiaid sy'n gryf o blaid hyrwyddo'r iaith."