成人快手

'Alzheimer's ddim yn ddiwedd y byd'

  • Cyhoeddwyd
Tim ac EirlysFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd Tim ac Eirlys ddim wedi gweld ei gilydd ers 1970, ond daeth diagnosis o dementia 芒 nhw n么l at ei gilydd drwy Facebook

"Dydw i ddim am eistedd yn y gornel yn teimlo'n unig ac yn aros i farw."

Roedd clywed bod ganddi ddementia cynnar yn sioc fawr i Eirlys Smith, 59 oed.

Ond ar 么l dechrau dod i delerau 芒'r diagnosis cysylltodd drwy Facebook 芒 hen ffrind ysgol sy'n gyfarwyddwr teledu - nad oedd wedi ei weld ers 50 mlynedd - a gofyn a oedd o eisiau gwneud rhaglen am ei thaith.

Y canlyniad yw'r rhaglen ddogfen Eirlys, Dementia a Tim fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 21:00 nos Sul, Ionawr 26.

Fel rhan o'r rhaglen, mae'r ddau wedi ail-greu fideo o g芒n Tones and I, Dance Monkey, oedd ar frig y siartiau yn 2019.

Yn y fideo gwreiddiol daw dau ffrind i achub hen ddyn sy'n eistedd yn ei gadair gartref ac mae'n gorffen gyda'r tri yn mwynhau parti ar gwrs golff.

Mae fersiwn Eirlys, sydd hefyd yn cynnwys ei theulu a'i ffrindiau, yn dechrau gyda hi yn codi o wely ysbyty ac yna'n gwisgo dillad lledr, yn teithio tua'r machlud fel teithiwr piliwn ar gefn beic modur pwerus.

'Dwlal'

Cyn gwneud y rhaglen ddogfen, doedd Eirlys, Borthaethwy ym M么n, a Tim, sydd bellach yn byw yn Llansteffan ger Caerfyrddin, ddim wedi cyfarfod ers mynychu'r ysgol gynradd ym Mhorthaethwy gyda'i gilydd rhwng 1968 ac 1970.

Aeth Tim ymlaen i fod yn actor a chyfarwyddwr gan ennill sawl gwobr a bod yn gyfrifol am ddram芒u teledu fel Tydi Coleg yn Gr锚t?, Eldra, a Fondue, Rhyw a Deinosors.

Wrth anfon neges at Tim drwy Facebook gofynnodd Eirlys, gyda'i thafod yn ei boch, a oedd am ddilyn ei thaith 芒 dementia nes iddi fynd yn "dwlal".

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Collodd Tim ac Eirlys gysylltiad yn 1970 ar 么l treulio tair blynedd yn yr ysgol gynradd gyda'i gilydd

Ar y dechrau, meddai Tim, cafodd drafferth i gofio Eirlys ond mi wnaeth ei chais ei gyffwrdd yn arbennig am fod ei dad ei hun, y cyfarwyddwr a'r actor David Lyn a fu farw yn 85 oed yn 2012, hefyd wedi cael diagnosis o ddementia cynnar.

Dywedodd Eirlys: "Y brif neges rwy' eisiau i bobl ei chael o'r rhaglen ddogfen yw bod yna fywyd ar 么l dementia, ac rwy'n bwriadu ei fyw i'r eithaf tra medraf oherwydd mae yna dda ym mhob peth.

"Ar 么l i mi gael y diagnosis mi gymerodd amser i mi ddod dros y sioc. Yna dechreuais dderbyn y peth, oherwydd fedra i ddim mo'i newid. Mae'n rhaid i mi wneud y gorau y medraf gyda'r cardiau sydd wedi'u rhoi mi. Rwy'n dal i gael diwrnodau anodd, ond dydw i ddim am eistedd yn y gornel yn teimlo'n unig ac yn aros i farw."

Mae Eirlys yn fam i dri ac wedi gweithio ym maes gofal ei hun.

"Roedd gan fy mam ddementia, ac rydw i hefyd wedi gweithio gyda phobl 芒 dementia felly rwy'n gwybod beth sydd ar y gorwel," meddai.

"Mae fy nghof yn annibynadwy o ddydd i ddydd.

"Er enghraifft os ydw i eisiau rhywbeth i fyny'r grisiau, weithiau mi fydda i'n mynd i fyny ac i lawr y grisiau 10 neu 20 gwaith cyn cofio beth rwyf eisiau ei n么l. Os ydw i'n mynd i fyny i n么l fy esgidiau, rhaid i mi ddal i ailadrodd y gair 'esgidiau', i mi fy hun, neu mi fydda i wedi anghofio'r hyn rydw i ei eisiau erbyn i mi gyrraedd yno.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyffyrddwyd Tim gan stori Eirlys gan fod ei dad, y cyfarwyddwr David Lyn, wedi cael diagnosis o dementia cynnar hefyd

'Ofn peidio 芒 gwybod ble ydw i'

"Mae fy nghof tymor byr yn ofnadwy ond mae fy nghof o amser pellach yn 么l, gan gynnwys fy nyddiau ysgol, yn llawer gwell.

"Weithiau, rwy'n teimlo fy mod i'n fethiant. Rwy'n mynd ar goll yn fy ardal fy hun, y lle y cefais fy magu.

"Rhaid i mi geisio mynd allan neu mi fydda i'n troi'n feudwy, yn byw ar fy mhen fy hun yn y t欧, a dydy hynny ddim yn beth iach i neb. Mae gen i ofn peidio 芒 gwybod ble ydw i.

"Roeddwn i eisiau gwneud y rhaglen ddogfen efo Tim i weld a fedrwn i ailgynnau atgofion hapus o'r adeg pan oeddem yn blant. Roeddwn i hefyd eisiau ffilmio rhywbeth fyddai'n dangos nad yw Alzheimer's yn ddiwedd y byd, ac nad yw fy mywyd wedi dod i ben. Does dim angen i mi eistedd mewn cornel gyda blanced dros fy mhengliniau."

Wedi effeithio ar y teulu

Pan oedd Tim yn yr ysgol gydag Eirlys ym Mhorthaethwy, David Lyn oedd cyfarwyddwr artistig Theatr yr Ymylon ym Mangor.

Meddai Tim: "Roedd fy nhad mewn sefyllfa debyg... ac rwy'n credu bod hynny wedi gwasgaru ein teulu yn llwyr oherwydd ef oedd yr un oedd yn ein cadw ni gyda'n gilydd. Ac rwy'n credu fod Eirlys hefyd yn graig i'w theulu.

"... roedd yn anodd iawn pan gafodd ddiagnosis o ddementia cynnar oherwydd fe newidiodd, a mynd yn anodd iawn. Mae fy nheulu yn dal i ddioddef oherwydd salwch fy nhad.

"Pan gysylltodd Eirlys ar Facebook doedden ni ddim wedi siarad ers rhyw 50 mlynedd. Roedd hi'n bryderus iawn cyn ffilmio, ond daeth yn berson gwahanol yn ystod y peth.

"Rwy'n credu bod ffilmio'r rhaglen ddogfen wedi bod yn brofiad grymusol iddi."

Hefyd o ddiddordeb: