Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dryswch' am gynllun gofal plant am ddim yng Nghymru
Mae rhai rhieni wedi derbyn biliau annisgwyl oherwydd dryswch yngl欧n 芒 chynllun gofal plant am ddim, yn 么l adroddiad.
Mae rhieni plant tair a phedair oed yng Nghymru sy'n gweithio yn cael 30 awr am ddim o ofal plant yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Daeth ymchwilwyr i'r canfyddiad fod rhai rhieni yn defnyddio'r cyfan yn gynnar heb sylwi ac yn derbyn biliau annisgwyl am ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y gofal plant am ddim yn cynnig cymorth i deuluoedd.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno fel peilot yn 2017 ac mae'n cynnig 20 awr o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio ar ben y 10 awr sy'n cael ei roi am ddarpariaeth addysg gynnar.
Yn ystod gwyliau ysgol, mae'r cynnig yn rhoi 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i hyd at naw wythnos.
Caiff hwn ei roi gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig, fel meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chylchoedd chwarae, sydd wedi ymuno 芒'r cynllun.
Mae astudiaeth ymchwil swyddogol i Lywodraeth Cymru yn dangos, er ei bod yn arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd, mae yna ddryswch o hyd yngl欧n 芒 sut mae'r cynllun yn gweithio.
'Un plentyn yn 拢500 yr wythnos'
Dywedodd un rhiant eu bod "mewn sioc fawr" o gael bil am dros 拢800 am ofal plant un mis yn ystod yr haf ar 么l peidio 芒 sylweddoli bod eu hawl wedi dod i ben.
Dywedodd un arall ei bod wedi cael bil mawr ar ddiwedd y gwyliau ar 么l peidio 芒 sylweddoli nad oedd ganddi hawl i'r 12 wythnos lawn.
Dywedodd yr adroddiad fod yna ddryswch hefyd yngl欧n 芒 sut mae'r cynnig yn effeithio ar gredydau treth a materion gyda rhieni hunangyflogedig yn profi eu cymhwysedd.
Mae'n argymell bod mwy o ganllawiau ar gael i rieni ynghylch eu hawl i ofal plant dros fisoedd y gwyliau.
Yn 么l Sarah Rees - sy'n fam i ddau o blant o Benarth, Bro Morgannwg - mae'r system bresennol yn gwahaniaethu yn erbyn rhieni sy'n fyfyrwyr a'r rheini ar gontractau dim oriau.
Dywedodd Ms Rees, sy'n astudio i fod yn gyfreithiwr ac sy'n diwtor rhan-amser, fod cost gofal plant yn ei gwneud hi'n amhosib i rieni fynd yn 么l i'r gwaith.
"Mae un plentyn yn golygu bil o 拢500 yr wythnos, dau blentyn neu fwy - nid oes gwerth mynd i weithio," meddai.
"Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru wrando ar rieni a gwneud y newid sydd ei angen ar rieni, fel mynediad i'r rheini ar gontractau dim oriau, gan seilio'r terfyn ar incwm cartrefi a chaniat谩u i rieni sy'n astudio gael rhywfaint o help hefyd."
'Mwy o gyfleoedd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y cynnig gofal plant yn sicrhau "buddion cadarnhaol i deuluoedd ledled Cymru".
"Mae gan fwy nag wyth o bob 10 o bobl fwy o incwm gwario o ganlyniad ac mae mwy na hanner yn teimlo bod penderfyniadau cysylltiedig 芒 gwaith yn fwy hyblyg," meddai.
"Canfu hefyd fod mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddi, dysgu a datblygu.
"Rydym yn ystyried yr holl faterion a godwyd yn y gwerthusiad. Yn y cyfamser, byddem yn annog teuluoedd ledled Cymru i weld a allan nhw elwa o'r cynnig gofal plant."