成人快手

Ysgol Glanaethwy yn dathlu troi'n 30 oed

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ysgol Glanaethwy yn 30 oed

Yng nghanol dathliadau'r Nadolig, mae gan ysgol berfformio Glanaethwy ym Mangor reswm arall i godi gwydryn - a hwythau ar drothwy eu pen-blwydd yn 30 oed.

Arbrofi yn y tymor byr oedd Cefin a Rhian Roberts pan agoron nhw'r ysgol ar ddechrau'r 1990au.

Ond ar 么l diddanu ar lwyfannau ar draws y byd, a sawl cyfres deledu amlwg, mae Glanaethwy yn edrych ymlaen at gyngerdd i ddathlu yn Llandudno nos Sadwrn.

Rhentu ystafelloedd wnaethon nhw i gychwyn, mewn lleoliadau fel Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, gyda'r bwriad o gynnal yr ysgol am bum mlynedd i ddechrau.

'Gwaith am oes'

Ond ar 么l penderfynu chwilio am rywle eu hunain, a phrynu safle ym Mharc Menai ar gyrion Bangor, daeth i'r amlwg bod y fenter wedi troi yn "brosiect am oes".

Dywedodd y cyfarwyddwr artistig ac un o'r sylfaenwyr, Cefin Roberts: "Nes i ddim breuddwydio y bydden ni mewn adeilad ein hunain i ddechrau 30 mlynedd yn 么l a phrosiect ryw bum mlynedd oedd yn y pen.

"Ar 么l y pum mlynedd agoriadol 'na mi oedden ni'n meddwl ein bod eisiau cario ymlaen, ond doedden ni ddim yn gallu cario 'mlaen mewn ystafelloedd oedden ni'n rhentu, mi oedden ni eisiau lle ein hunain.

"Unwaith ti'n cael lle dy hun yna mae'n rhaid talu amdano, ac roedden ni'n gwybod wedyn fod hwn yn waith am oes."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cefin Roberts oedd un o sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy 30 mlynedd yn 么l

Yn ogystal 芒'r corau iau a h欧n, a'r gwersi drama, mae'r ysgol hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion astudio TGAU a Safon Uwch mewn Drama.

Wrth baratoi at flwyddyn o ddathliadau yn 2020, mae'r ysgol yn cynnal cyngerdd arbennig yn Venue Cymru yn Llandudno nos Sadwrn.

Bydd rhai o'r cyn-ddisgyblion yn ymuno 芒'r criw presennol i berfformio amrywiaeth o eitemau hen a newydd, gan gynnwys caneuon o sioe Magdalen, cynhyrchiad cynta'r ysgol yn Theatr Gwynedd ar ddechrau'r 1990au.

Byddan nhw hefyd yn teithio i'r Swistir yn 2020 ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol, a bydd y dathlu'n parhau gyda sioe fawr arall yn yr haf.

Mae Glanaethwy hefyd wedi cynnal teithiau tramor, o Fwlgaria i'r Wcrain ac Efrog Newydd, lle buon nhw'n perfformio yn Neuadd Carnegie.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lisa J锚n - aelod o ddosbarth gwreiddiol Ysgol Glanaethwy - bellach yn actio ac yn canu'n broffesiynol

Ers ei sefydlu yn 1990, mae'r ysgol wedi cael llwyddiannau mewn cystadlaethau fel Music For Youth, Last Choir Standing a Britain's Got Talent.

Un fuodd yn aelod o'r dosbarth cyntaf yn 1990 oedd Lisa J锚n, sydd bellach yn actio ac yn canu'n broffesiynol.

"Dwi'n si诺r fy mod yn y dosbarth cyntaf un yn 1990, mae'n hollol wahanol dod yn 么l i dy wreiddiau, i'r teimlad na o pan oeddet ti yn dy arddegau."