Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adwaith yn cipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019
Adwaith, gyda'u halbwm Melyn, sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019 mewn seremoni yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.
Melyn yw'r albwm gyntaf i'r tair ei rhyddhau.
Yr aelodau yw Hollie Singer (llais, git芒r), Gwenllian Anthony (git芒r fas, allweddellau a mandolin) a Heledd Owen (drymiau).
Cafodd yr enillydd ei ddewis gan banel o feirniaid yn cynnwys Dexter Batson (Spotify), Sean Griffiths (Mixmag), Kaptin (Boomtown), Daniel Minty (Minty's Gig Guide), Carolyn Hitt (newyddiadurwr) a Chris Roberts (blog S么n Am Sin).
Wrth ymateb ar raglen Lisa Gwilym ar 成人快手 Radio Cymru dywedodd y band: "Mae hyn yn insane. Dy'n ni'n methu ei gredu e. Mae'n meddwl y byd i ni."
Fe sgwennon nhw'r caneuon pan oedden nhw'n 17 oed.
Disgrifiodd Huw Stephens, un o sylfaenwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, yr albwm fel "enillydd cyffrous a haeddiannol iawn o restr fer eithriadol".
"Mae Adwaith wedi cael effaith wirioneddol gyda'u cerddoriaeth bersonol, hardd sy'n cyfleu sut beth yw bod yn ifanc, benywaidd, rhwystredig a dryslyd yn y byd rydyn ni'n byw ynddo," meddai.
Mae rhai o enillwyr y wobr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i sicrhau cydnabyddiaeth ehangach gan gynnwys albymau buddugol Boy Azooga (2018), Gwenno (2015) a Gruff Rhys (2011).
Hwn oedd y nawfed tro i'r seremoni gael ei chynnal.
Yr artistiaid eraill ar y rhestr fer oedd:
- Accu - Echo the Red
- Audiobooks - Now! (in a minute)
- Carwyn Ellis a Rio 18 - Joia!
- Cate Le Bon - Reward
- Deyah - Lover Loner
- Estrons - You Say I'm Too Much I Say You're Not Enough
- HMS Morris - Inspirational Talks
- Lleuwen - Gwn Gl芒n Beibl Budur
- Lucas J Rowe - Touchy Love
- Mr - Oesoedd
- Vri - Ty Ein Tadau