Diwrnod cyntaf streic staff prifysgol dros amodau gwaith

Disgrifiad o'r llun, Roedd aelodau o staff yn picedi y tu allan i Brifysgol Bangor fore dydd Llun
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 成人快手 Cymru

Bydd staff tair prifysgol yng Nghymru yn dechrau ar wyth diwrnod o weithredu diwydiannol ddydd Llun - mae'r streic yn ymwneud 芒 phensiynau, t芒l ac amodau gwaith.

Prifysgolion Caerdydd, Bangor a Phrifysgol Cymru yw'r sefydliadau fydd yn cael eu taro gan y gweithredu sy'n digwydd mewn 60 o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig.

Aelodau undeb yr UCU sydd yn streicio yngl欧n 芒 chyfraniadau i bensiynau, y defnydd o gytundebau achlysurol yn y sector a chyflogau.

Dywedodd cynrychiolwyr y prifysgolion eu bod wedi cymryd camau i amddiffyn pensiynau a th芒l.

Mae undeb yr UCU yn cynrychioli academyddion, ymchwilwyr, gweithwyr gweinyddol a llyfrgellwyr yn y sector addysg uwch.

Pleidleisiodd staff mewn tair prifysgol yng Nghymru o blaid streicio dros ddau anghydfod gwahanol ar 么l croesi'r trothwy o 50% o'r aelodau'n bwrw eu pleidlais.

Mae'r gweithredu diwydiannol yn dechrau ddydd Llun, ac mae disgwyl picedu tu allan i adeiladau'r prifysgolion a 'dosbarthiadau am ddim' sy'n agored i'r cyhoedd mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd a Bangor.

Fe fydd rali'n cael ei gynnal ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd i nodi dechrau'r gweithredu.

'Ymladd dros ddyfodol addysg uwch'

Dyma'r eildro mewn dwy flynedd i aelodau'r UCU streicio - y tro diwethaf am 14 diwrnod yn Chwefror 2018 a hynny dros bensiynau.

Yn 么l yr undeb mae prifysgolion wedi parhau i gefnogi cynnydd yng nghyfraniadau staff i bensiynau USS.

Mae'r anghydfod arall yngl欧n 芒'r defnydd o gytundebau achlysurol mewn prifysgolion, cydraddoldeb cyflogau rhwng staff gwrywaidd a benywaidd a'r wasgfa ar gyflogau.

Dywedodd swyddogion yr undeb nad oedd y penderfyniad i streicio wedi ei wneud "ar chwarae bach".

Disgrifiad o'r llun, Dyma ydy dechrau wyth diwrnod o weithredu diwydiannol gan staff tair Prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys yma ym Mangor

Dywedodd Dyfrig Jones, Llywydd UCU Bangor: "Rydym yn llwyr ddeall mor anghyfleus y bydd hyn i'n myfyrwyr, a gresynwn hefyd y modd y bydd hyn yn achosi caledi ariannol sylweddol i'n haelodau.

"Ond mae'r materion dan sylw yn rhy bwysig i ni laesu dwylo a gwneud dim.

"Yn y fantol y mae cymaint yn fwy na'n pensiynau ni yn unig - rydym yn ymladd dros ddyfodol addysg uwch ei hun."

'Gwarchod gwerth pensiynau'

Ond mae'r cyrff sy'n cynrychioli prifysgolion, Universities UK a'r Universities College and Employers Association, wedi annog staff i ailfeddwl.

"Dros y misoedd diwethaf mae cyflogwyr wedi cymryd camau arwyddocaol i warchod gwerth pensiynau a th芒l a hynny achos ein bod yn poeni am ein staff ymroddgar a thalentog", meddai'r cyrff.

"Mae'n ddrwg iawn gennym bod y gweithredu diwydiannol sydd wedi ei alw gan yr UCU yn debygol o darfu ar fyfyrwyr".

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Colin Riordan wedi ysgrifennu llythyr agored at staff a myfyrwyr

Mewn llythyr i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd dywedodd yr Is-ganghellor Colin Riordan ei fod yn disgwyl y bydd mwyafrif y dysgu yn mynd yn ei flaen ond ei bod yn bosib y byddai effaith mawr mewn rhai meysydd.

"Fe fydd y brifysgol yn aros ar agor a byddwn yn parhau i wneud popeth posib i leihau'r effaith ar eich astudiaethau", meddai.

Mewn llythyr tebyg at staff galwodd ar bawb i drin ei gilydd gydag "urddas, cwrteisi a pharch" mewn cyfnod o deimladau cryfion.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru: "Deallwn y gallai nifer fach o staff Prifysgol Cymru gymryd rhan yn y streic.聽

"Nid yw'r aelodau hynny o staff academaidd yn ymwneud yn uniongyrchol 芒 dysgu myfyrwyr.

"Gallwn gadarnhau na fydd y streic yn cynnwys staff academaidd ar gampysau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant."