Pa un yw eich hoff grys Cymru chi?

Os ydych yn hoff o chwaraeon a hanes mae 'na arddangosfa berffaith ar eich cyfer yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Mae'r arddangosfa Celf Crys Cymru yn edrych n么l ar 60 mlynedd o hanes crysau p锚l-droed Cymru, gan gynnwys 28 crys wedi'u gwisgo gan chwaraewyr mewn gemau.

Mae yna grysau gan Len Allchurch, Terry Yorath, Ian Rush a dau o reolwyr presennol Cymru, Ryan Giggs a Jayne Ludlow, yn rhan o'r arddangosfa.

Yn cael ei arddangos am y tro cyntaf mae crys diweddaraf Cymru, gyda'r bathodyn a gafodd ei ysbrydoli gan darian Owain Glynd诺r.

Mae'r arddangosfa gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru yn Sain Ffagan rhwng Tachwedd 11-24, ac mae am ddim.

Dyma flas o'r crysau sydd i'w gweld.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r arddangosfa yn cynnwys llawer o grysau sydd wedi eu gwisgo mewn gemau rhyngwladol, o 1958 hyd heddiw
Disgrifiad o'r llun, Crys Len Allchurch a enillodd 11 o gapiau dros Gymru rhwng 1955 ac 1963
Disgrifiad o'r llun, Un o'r crysau mwyaf eiconig sydd wedi ei ailgreu sawl gwaith ac sydd yn boblogaidd hyd heddiw
Disgrifiad o'r llun, Crysau o'r 80au sy'n gysylltiedig a Terry Yorath, Kevin Ratcliffe, Joey Jones, Alan Curtis a Mickey Thomas
Disgrifiad o'r llun, Crys un o'r g么l-geidwaid gorau yn y byd yn ei ddydd, Neville Southall
Disgrifiad o'r llun, Un arall o'r crysau eiconig, crys Hummel o ddiwedd yr 80au
Disgrifiad o'r llun, Crys sy'n cael ei gysylltu yn aml gyda buddugoliaeth Cymru yn erbyn pencampwyr y byd, Yr Almaen, a g么l enwog Ian Rush, yn 1991
Disgrifiad o'r llun, Crys Dean Saunders yn rhan o'r arddangosfa, a dau o'i gyd-chwaraewyr ar y pryd, Mark Hughes ac Ian Rush
Disgrifiad o'r llun, Rheolwr presennol garfan genedlaethol dynion Cymru, Ryan Giggs, yn chwarae yn erbyn Rwmania yn 1993
Disgrifiad o'r llun, Crysau y diweddar Gary Speed, a gafodd 85 o gapiau dros Gymru rhwng 1990 ac 2004
Disgrifiad o'r llun, Crys Daniel Gabbidon, a chwaraeodd ynddo yn erbyn Gwlad Pwyl ym mis Medi 2005 yn cael ei arddangos. Cafodd y crys yma ei ddylunio er teyrnged i John Charles, a fu farw yn 2004.
Disgrifiad o'r llun, Crysau sy'n dynodi dechrau cyfnod Chris Coleman wrth y llyw
Disgrifiad o'r llun, Crys yr ymgyrch hollbwysig pan gyrhaeddodd Cymru bencampwriaethau Euro 2016. Mae crys Gareth Bale o'r g锚m yn erbyn Israel ar 6 Medi, 2015, i'w gweld fel rhan o'r arddangosfa
Disgrifiad o'r llun, Y crysau a welodd y byd - Cymru yn cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth Euro 2016
Disgrifiad o'r llun, Dim ond unwaith gafodd y crys melyn yma ei wisgo, a hynny oddi cartref yn erbyn Moldova ym mis Medi 2017
Disgrifiad o'r llun, Y crysau newydd, gyda dyluniad newydd o'r bathodyn
Disgrifiad o'r llun, Mae'r arddangosfa yn eich croesawu ger y brif fynedfa wrth i chi gyrraedd Amgueddfa Sain Ffagan. Pa un yw eich ffefryn?!

Hefyd o ddiddordeb: