Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfraith i leihau effaith tai haf 'ddim yn gweithio'
- Awdur, Elin Gwilym
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Dydy cyfraith newydd gafodd ei chreu i leddfu effeithiau tai haf ar gymunedau "ddim yn gweithio", yn 么l rhai gwleidyddion.
Ers 2017 mae cynghorau lleol wedi cael yr hawl i godi premiwm o hyd at 100% ar dreth cyngor perchnogion ail dai, a'r arian i gael ei ddefnyddio ar roi hwb i'r stoc dai fforddiadwy mewn cymunedau.
Ond mae nifer cynyddol yn dewis cofrestru eu heiddo fel busnesau sy'n golygu nad ydyn nhw'n talu trethi lleol o gwbl.
Mae fforwm gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru newid y ddeddf.
Yn 么l Llywodraeth Cymru awdurdodau lleol sydd orau i ddelio 芒'r mater.
Mae Rhys Elvins yn un o gyfarwyddwyr cwmni Abersoch Quality 成人快手s, busnes teuluol sydd yn gyfrifol am osod tua 90 o dai yn ardal Abersoch.
Mae tua hanner eu cleientiaid yn dynodi eu heiddo fel busnesau.
Ar yr amod fod yr eiddo ar gael i'w osod am 140 diwrnod o'r flwyddyn ac yn cael ei osod am 70 o'r rheiny, does dim angen talu treth cyngor.
Yn 么l Mr Elvins mae'n sefyllfa deg.
"Os ydy eiddo yn cynhyrchu incwm yna ma'n cael ei ystyried yn fusnes bach," meddai.
"Maen nhw'n dod 芒 phobl ac arian i mewn i'r ardal felly dwi'n meddwl fod y sefyllfa yn un deg."
Mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu ers tro i gael newid y ddeddf.
Yn 么l Aelod Cynulliad Arfon, Si芒n Gwenllian mae'n ychwanegu at y pwysau ar y farchnad dai i bobl ifanc wrth i brisiau fynd yn rhy uchel i bobl leol.
"Mae 'na 2,000 o bobl ar y rhestr yn aros am dai yng Ngwynedd, wedyn mae 'na 1,000 arall sydd wedi ffeindio ffordd o osgoi talu treth o gwbl.
"Mae'n warthus fod y peth yn cael ei ganiat谩u."
Mae 'na tua 5,000 o ail dai yng Ngwynedd.
'Annhegwch'
Honiad y cyngor yw eu bod nhw'n colli cannoedd o filoedd y flwyddyn wrth i fwy o berchnogion beidio talu treth cyngor.
Mae Dyfrig Siencyn yn gyd gadeirydd fforwm gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn siomedig nad ydy Llywodraeth Cymru yn fodlon newid y ddeddf.
"Mae yna annhegwch fod y bobl yma sydd yn gallu fforddio prynu ail d欧 ddim yn talu treth o gwbl, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn deall yr ateb syml sydd yn cael ei gynnig ac mae angen inni wneud mwy o waith i'w perswadio nhw o hynny."
Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod amodau "penodol i berchnogion tai sydd am osod eu tai fel unedau hunan arlwy".
Mae gan awdurdodau lleol y "grym i godi premiwm o hyd at 100% ar dreth cyngor tai gwag ac ail dau yn eu hardaloedd", meddai llefarydd.