Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar Ynys M么n
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae deilydd portffolio datblygu economi Cyngor Ynys M么n wedi galw ar Lywodraeth Cymru am "help a chymorth" wrth geisio adfer economi'r ynys.
Yn 么l y Cynghorydd Carwyn Jones mae "cyllidebau datblygu" wedi aros yng Nghaerdydd tra bod cyllidebau cynghorau sir "wedi'u torri".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cefnogi amryw o fusnesau, ac er yr hinsawdd economaidd caled maen nhw'n parhau i gefnogi'r awdurdod lleol.
Daw'r galw ar drothwy cyhoeddiad cynllunio Llywodraeth y DU ar ddyfodol safle Wylfa Newydd ddydd Mercher.
'Dim ceiniog o gyllideb graidd'
Dywedodd Mr Jones fod angen cefnogaeth y llywodraeth gan mai "dyna lle mae'r pres".
"Does gennym ni ddim ceiniog o gyllideb graidd i ddatblygu'r economi - dim ond swyddogion sy'n gweithio i gael grantiau ar arian m芒n," meddai.
Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae Ynys M么n wedi bod yn dyst i nifer o ergydion economaidd:
- 2009 - Cau Alwminiwm M么n gan adael 400 o bobl heb waith;
- 2014 - Gohirio cynllun i adeiladu melinau gwynt oddi ar arfordir y gogledd;
- 2017 - Gwrthod cynllun gwerth 拢1bn ym mharc Ynni Biomas allai fod wedi creu 1,200 o swyddi adeiladu a 500 o swyddi parhaol;
- 2019 - Gohirio cynllun Wylfa Newydd gan roi 9,000 o swyddi posib yn y fantol;
- 2019 - Cau cwmni Rehau ac ail leoli cwmni Marco gyda cholled o 144 o swyddi.
Dywedodd John Pearson - cyfarwyddwr cwmni ATC sy'n hyfforddi unigolion ar sut i ddefnyddio peiriannau diwydiannol - fod ei gwmni yn "dibynnu ar gael economi yn Ynys M么n a chael cwmn茂au yn dod mewn".
"'Da ni wedi sefydlu drws nesaf i Rehau ac felly wedi colli dipyn o waith o hwnna," meddai.
"Eto, roedd Marco yn gwsmer newydd i ni."
Roedd cwmni ATC wedi bwriadu ehangu yn gynharach eleni ond yn sgil cwymp Rehau a Marco a'r ansicrwydd am Wylfa Newydd mae'r cwmni wedi gorfod "torri 'n么l" a dydyn nhw "ddim yn cynnig gwaith" bellach.
Cytunodd Mr Pearson fod angen i'r llywodraeth ymyrryd gan fod "Ynys M么n yn cael ei adael allan".
Wrth edrych yn fanylach ar economi'r ynys dywedodd yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor fod angen buddsoddi.
"Er bod diweithdra ychydig bach yn uwch na'r hyn 'da ni'n gweld yng Nghymru, y gwahaniaeth mawr ydy'r incwm sy'n dod mewn i'r swyddi ar yr ynys," meddai.
"Mae gwahaniaeth mawr mewn incwm - oddeutu 拢10,000 y pen o gymharu 芒 gweddill Cymru.
"Beth sy'n bwysig ydy datblygu cwmn茂au sy'n mynd i ddod ag incwm da mewn i'r ynys."
Ychwanegodd fod y cwmn茂au sydd wedi gadael M么n yn rhai "o dramor" ac "nad ydyn nhw'n adlewyrchiad o botensial economaidd yr ynys".
Tra bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y "caledi economaidd" mae'n dweud ei fod wedi "buddsoddi mewn isadeiledd gan gynnwys Parc Gwyddoniaeth M-SPARC a phenderfynu ar gynllun ffafriol i greu trydedd bont dros y Fenai".