Ffrae yn corddi am enw dwyieithog y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae 成人快手 Cymru yn deall fod Llywodraeth Cymru yn ffafrio rhoi enw dwyieithog i'r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach nag arddel y gair Senedd yn unig.
Daw'r newyddon cyn i aelodau'r cynulliad bleidleisio ar ddeddf fyddai'n newid enw'r sefydliad yn swyddogol i "Senedd."
Mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones wedi cynnig gwelliant i'r mesur - gwelliant sy'n galw am enw dwyieithog "Senedd Cymru" a "Welsh Parliament."
Dywed Cymdeithas yr Iaith y byddai hyn yn gam yn 么l, gan y byddai rhoi enw Saesneg yn "anochel yn normaleiddio'r enw hwnnw ac yn tanseilio defnydd o'r enw Cymraeg."
Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwelliant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y "llywodraeth yn gyson yn cydweithio gydag aelodau o'r meinciau cefn er mwyn gwella deddfwriaeth."
Mae disgwyl i'r bleidlais gael ei chynnal ar 9 Hydref.
Dywedodd Mr Jones y dylai'r sefydliad gael enw dwyieithog am "gyfnod o leiaf" fel bod pawb yn deall beth yw gwaith y sefydliad.
Mae'r aelod Ceidwadol Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu cael enw Cymraeg yn unig.
"Dylai hyn ddim bod yn rhywbeth dadleuol, mae hyn yn y pendraw yn parchu deddfwriaeth sydd eisoes mewn grym er mwyn amddiffyn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Mae Parliament a Senedd, y ddau air yn dderbyniol i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru."
N么l ym mis Gorffennaf, fe wnaeth ACau gytuno i egwyddorion .
Roedd yna 42 o blaid a naw yn erbyn.
Deellir fod y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud wrth Gymdeithas yr Iaith ei fod ef yn ffafrio enw Cymraeg yn unig.
Mae Plaid Crymu hefyd yn ffafrio hyn gan ddweud fod yr iaith yn rhywbeth sy'n "eiddo i holl bobl Cymru."
'Dangos balchder'
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Llywydd, Elin Jones, ei bod hithau hefyd yn ffafrio enw Cymraeg yn unig.
Yn 么l llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith byddai penderfynu ar enw dwyieithog yn gam gwag.
"Fel dywedodd Mr Drakeford, mae'r enw yn gyfle i Gymru weithredu'n wahanol ac yn gadarnhaol: i normaleiddio defnydd y Gymraeg a dangos bod yr iaith wir yn perthyn i bawb.
"Mae'n gyfle euraidd i ni ddangos balchder a hyder yn ein hiaith unigryw.
"Os gall pawb ddweud 虫27;顿谩颈濒虫27; neu 'Bundestag' heb yr angen am ddisgrifiad swyddogol Saesneg - pam na allwn ni wneud yr un peth gyda 'Senedd'?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018