Galwad i ailystyried ffioedd parcio Ynys Lawd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl leol yng Nghaergybi wedi mynegi pryder am benderfyniad yr RSPB i gyflwyno ffioedd yn y meysydd parcio ger Ynys Lawd.
Mae'r atyniad, sy'n denu degau o filoedd pob blwyddyn, wedi cynnig llefydd parcio am ddim ers blynyddoedd, ond mae'r warchodfa adar bellach yn codi t芒l am wneud hynny.
Yn 么l un cynghorydd lleol gall y ffioedd newydd olygu "na fydd pobl yn dod" dim mwy.
Wrth ymateb dywedodd yr RSPB fod y ffioedd o ganlyniad i "gyllid cyhoeddus yn lleihau".
'Trist'
Ers mis Ebrill eleni mae ymwelwyr wedi cael treulio'r ddwy awr gyntaf am ddim ac wedyn gorfod talu 拢2.50 yn ychwanegol.
Ond rhwng mis Mawrth a mis Hydref y flwyddyn nesaf bydd rhaid talu 拢2 am yr awr gyntaf ac yna 拢5 am weddill y dydd.
Yn 么l Dafydd Rhys Thomas, Cynghorydd sir Ynys Cybi mae'r taliadau yn rhywbeth "trist"
"Mae'r tir wedi bod am ddim ers canrifoedd, ac i ddod 芒 thollau fewn... dwi'm yn hapus.
"Mae'r effaith wedi dechrau yn barod - fydd pobl ddim yn caboli d诺ad.
"Maen nhw (RSPB) yn gwario yma ond fydd y caffi ac ati yn dod ag incwm sylweddol i mewn.
"Does gennai ddim dadl efo'r bobl sy'n gweithio dim ond y mudiad mawr sydd wedi colli touch efo pobl leol," meddai.
'Llai o bres'
Wrth ymateb dywedodd y RSPB eu bod nhw'n derbyn llai o bres o'r "sector cyhoeddus" a'u bod eisiau parhau "i reoli gwarchodfeydd natur i'r safon ddisgwyliedig".
"Mae 'na staffio ac adnewyddu a neud yn si诺r fod yr atyniad yn un mae pawb yn mwynhau," meddai Bethan Lloyd o RSPB Cymru.
"Wrth gwrs mae'n destun sensitif. Ni yw'r cyntaf i ddeud ein bod heb wneud digon o ymgynghori ar y cychwyn, ond dwi'n gobeithio ein bod ni wedi gwneud digon i agor y sgyrsiau hynny r诺an."
Bydd y ffioedd newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf lle bydd disgwyl i holl waith adnewyddu fod wedi ei gwblhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018