成人快手

Y cyn filwr sydd am helpu eraill wrth fyw gydag Alzheimer's

  • Cyhoeddwyd
Rob Beattie
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rob Beattie ddiagnosis o Alzheimer's yn 2017: roedd ei wraig Karen ac yntau'n trafod byw gyda Dementia yn Eisteddfod Sir Conwy 2019

Pan mae pobl yn cyfarfod Rob Beattie yn iwnifform yr Awyrlu ychydig sy'n sylweddoli fod y cyn sarjant yn byw gydag Alzheimer's.

"Pan dwi'n gwisgo'r iwnifform," meddai Rob "dwi'n teimlo'n wahanol ac mae pobl yn meddwl amdana' i'n wahanol.

"Tasach chi'n fy ngweld i mewn j卯ns fysach chi ddim yn meddwl ddwywaith amdana' i - ond pan dwi'n gwisgo'r siwt yma, dwi'n sythu ac yn teimlo mod i'n rheoli'r Dementia, nid y ffordd arall rownd."

Ymunodd Rob 芒'r Awyrlu pan oedd yn 16 oed a chafodd ddyrchafiad i fod yn sarjant ymhen ychydig flynyddoedd a symud i faes rhaglennu cyfrifiadurol.

Oherwydd yr arbenigedd yma cafodd ei anfon i ryfel y Falklands fel jammer, sef y rhai oedd yn ceisio ymyrryd 芒 signalau radar byddin yr Ariannin.

Roedd Rob wedi gorfod gadael yr Awyrlu pan oedd yn 41 oed er mwyn dod adref i Borthmadog i ofalu am ei rieni.

Dyna pryd y cyfarfu 芒 Karen, sydd bellach yn wraig iddo.

Roedd y p芒r wedi setlo yn Iwerddon wedi i Rob gael swydd rhaglennu yno, pan gafon nhw'r newyddion a newidiodd eu bywydau.

Yn 2014 cafodd Karen ddiagnosis o ganser a chael llawdriniaeth, radiotherapi a chemotherapi.

Dyna pryd y sylwodd hi hefyd ar newidiadau yn Rob a cheisio ei berswadio i fynd i weld meddyg.

"Cymerodd Karen amser hir i'm darbwyllo i fynd at y meddyg," meddai Rob.

Ond pan aeth, doedd o ddim yn disgwyl cael diagnosis o Alzheimer's.

"Ym mis Ebrill 2017, anfonwyd fi i ysbyty meddwl yn Nulyn ac o fewn chwe wythos ar 么l y profion cychwynnol rhoddwyd y newyddion trychinebus fod gen i Alzheimer's.

"Roedd hyn yn newid ein bywyd ar ben i lawr," meddai Rob gan gofio'r meddyg dan deimlad wrth gydio yn ei law o a Karen wrth roi'r newyddion iddyn nhw.

"Collais fy swydd a gorfod mynd ar fudd-daliadau, gwerthu ein cartref yn Iwerddon a dod adref i Gymru."

Lledu'r neges

Mae'r p芒r bellach yn byw yn Abergele er mwyn gallu bod yn agos at Ysbyty Glan Clwyd.

Mae Rob a Karen yn teithio o amgylch gwahanol gymdeithasau i ddweud eu stori er mwyn codi ymwybyddiaeth.

"Rydyn ni eisiau dangos y dyn, ac nid y salwch," meddai Karen.

Dywed Rob fod y salwch yn effeithio arno mewn sawl ffordd; mae'n colli ffocws a cholli ei gof tymor byr; mae siarad ar y ff么n yn anodd gan fod ei glyw mor ac铆wt ac mae'n teimlo'n bryderus mewn amgylchiadau newydd.

Mae ganddo hefyd ofn i bobl gymryd mantais ohono oherwydd ei gyflwr.

Ond mae hefyd eisiau pwysleisio'r pethau mae'n gallu eu gwneud gan gynnwys gyrru car, mynd dramor i sg茂o a mwynhau cerdded ar yr Wyddfa.

"Nid wyf yn mynd i ganiat谩u i Alzheimer's ein rhwystro rhag byw bywyd llawn a helpu eraill i ddeall yr heriau rydym yn eu hwynebu," meddai Rob.

"Gobeithio gallwn helpu eraill ar eu taith drwy ei rannu gyda phob math o gynulleidfa."

Dyna pam roedden nhw yn ymweld 芒'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer yn 2019.

Ar wahoddiad Merched y Wawr roedden nhw'n trafod eu profiad o fyw gyda Dementia.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rob a Karen mewn sesiwn am Dementia wedi ei drefnu gan Merched y Wawr a'r Cyngor Llyfrau yn Eisteddfod Llanrwst

Roedd y mudiad yn cynnal sesiynau i drafod y cyflwr a hybu eu prosiect i gynhyrchu adnoddau i helpu pobl i ddeall Dementia yn well.

Meddai Karen mewn cyfweliad o'r maes ar Taro'r Post ar Radio Cymru: "Mae isho dysgu pawb am dementia a pheidio cuddio fo a bod ofn. Mae angen siarad amdano fo.

"Gobeithio yn yr Eisteddfod nesa' fydd bws dementia. Mae'n mynd 芒 ti trwy'r profiad mae pobl gyda dementia yn mynd trwy bob dydd- yr ofn, y ddim clywed na gweld. Mae'n anhygoel mynd arno fo. Ers i fi fynd ar y bws dw i'n hollol wahanol efo Rob.

"Gallai'r Eisteddfod wneud lot mwy. Mae angen llefydd i fod yn ddistaw bach. Mae o'n gorfod eistedd yng nghanol pawb ac mae ofn weithiau."

Gobaith Rob a Karen hefyd ydy gallu annog pobl i fynd i weld meddyg yr eiliad maen nhw'n amau bod yna rywbeth o'i le.

Mae meddygaeth ar gael sy'n gallu arafu'r broses, meddai Rob, felly mae ymyrraeth gynnar gan feddygon yn gallu gwneud gwahaniaeth. Ac os nad yw'n ddementia yna mae gwybod hynny'n gynt yn dileu'r ofn a'r pryder.

Hefyd o ddiddordeb: