Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr ysgrifenwraig Michelle Thomas
Yr ysgrifenwraig Michelle Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar 么l iddi gael ei henwebu gan Si芒n Harries.
Aeth blog gan Michelle yn feiral yn 2015 pan ysgrifennodd lythyr agored at ddyn oedd wedi ei galw yn 'rhy dew' i fod mewn perthynas gyda hi. Mae hi newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf - My Sh*t Therapist - am ei phrofiadau gyda salwch meddwl.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cuddio tu 么l i Mam tra oedd Nain a Taid yn canu 'penblwydd hapus' - dwi'n meddwl o'n i'n dair mlwydd oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Christian Slater yn Robin Hood Prince of Thieves. Dwi'n licio dyn mewn tights.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Nes i gael Marilyn Monroe Moment anffodus o flaen dreifiwr tacsi. Y peth gwaethaf oedd mai ffroc wen o'n i'n gwisgo, and o'dd gennai ddim nicyrs gwyn. O'dd gen y nghariad i ar y pryd p芒r o drons Marvel o'dd yn wyn ar y tu mewn, felly nes i wisgo rheini efo'r tu mewn tu allan.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Pan welais i llyfr fi, My Sh*t Therapist and other mental health stories, mewn siop lyfrau am y tro cyntaf.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwerthin ar j么cs fy hun.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llyn Tegid amser gwawr yn yr haf. Mae'r byd yn perthyn i'r pryfed a'r pysgod pryd hynny. Do's 'na'm heddwch debyg.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gweld Nick Cave yn Hammersmith yn 2013. 'Nath o ddal fy llaw a canu i mewn i fy lygaid i am Miley Cyrus yn arnofio mewn llyn. Hudol.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Merch Arwel Ambiwlans.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dwi'n gwylio Priscilla Queen of the Desert bob noswyl blwyddyn newydd tra dwi'n neud make-up fi. Hoff lyfr fi (heddiw) yw Queenie gan Candice Carty-Williams. Mae hunangofiant Lily Allen yn ardderchog, hefyd - menyw gymhleth, hynod ddiddorol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
'Nath Anti fi farw pan o'n i'n wyth oed. 'Swn i'n licio cal glas o win efo hi.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
'Swn i'n licio sgwennu sgript teledu. Dwi ddim yn ddigon hyderus i weithio allan plot ar ben fy hun eto, ond dwi'n dda efo deialog. Nes i gynnwys dau sgript fer yn y llyfr i ddangos sgils fi!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael y teulu efo'i gilydd, ransacio cwpwrdd grog gwyliau Mam, a chal parti masif.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Dwi ddim yn c诺l iawn. Un o fy hoff ganeuon i, yn gwbwl heb eironi, ydi Deeply Dippy gan Right Said Fred. Dwi'n licio'r cyrn.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Wwwfff, caled iawn. Cwrs cyntaf, efallai 辫补迟猫? Neu Bruschetta, efo tomatos aeddfed (dwi'n snobyddlyd am tomatos) a mozzarella. Neu falle burrata. Prif gwrs - st锚c tiwna, tatws newydd, a salad (efo tomatos da). Neu st锚c eidion rare. Neu mwy o burrata. Pwdin - Banoffee pie. Neu profiteroles. Gwin coch efo'r cwbwl, wedyn double espresso, wedyn cocktail Old Fashioned 辫濒卯蝉.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Dwayne 'The Rock' Johnson.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Dyfrig Evans