Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwpan y Byd i 'daflu goleuni cadarnhaol ar ddigartrefedd'
Bydd modd i Gwpan y Byd i'r Digartref "daflu goleuni cadarnhaol ar ddigartrefedd", yn ôl aelodau o dîm merched Cymru.
Mae disgwyl i dros 500 o chwaraewyr sy'n cynrychioli 48 o wledydd ymweld â Chaerdydd rhwng 27 Gorffennaf a 3 Awst ar gyfer y gystadleuaeth.
Bydd Cymru yn cystadlu yn y ddau gategori - dynion/cymysg a merched - a bydd yr holl gemau 4-bob-ochr yn cael eu cynnal ym Mharc Biwt.
Mae'r trefnwyr yn dweud eu bod eisiau defnyddio'r gystadleuaeth i greu cyfleoedd i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.
Cafodd y cais llwyddiannus i ddenu'r twrnamaint, sy'n cael ei gynnal am y 17eg tro, i'r brif ddinas ei arwain gan yr actor Michael Sheen.
Yn ogystal â'r pêl-droed mae nifer o ddigwyddiadau ymylol wedi eu trefnu hefyd gan gynnwys gigs ac orielau celf.
Mae Gwenno, James Dean Bradfield, Mellt ac Alffa ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yn ystod yr wythnos.
Mae Osian Lloyd yn gobeithio cynrychioli Cymru am y tro cyntaf eleni, wedi iddo fethu allan ar y gystadleuaeth dwy flynedd yn ôl oherwydd problemau gyda'i basbort.
"Bydd y gystadleuaeth yma yn dipyn gwell dwi'n siŵr, cael y cyfle i chwarae yn eich gwlad eich hun o flaen cefnogwyr eich un. Dwi methu aros," meddai.
Dywedodd Mr Lloyd, 19 oed o Flaenau Ffestiniog, bod pêl-droed wedi helpu iddo drawsnewid ei fywyd wedi iddo dreulio cyfnod yn byw ar y stryd.
"Mae'n rhoi pwrpas i mi. Mae'r sefyllfa deuluol wedi newid hefyd, es i weld nhw diwrnod o'r blaen am y tro cyntaf mewn tua blwyddyn a hanner. Dim pêl-droed yn unig yw hyn, mae'n newid bywydau."
Ychwanegodd: "Dwi wedi cael cynnig llety yn Abertawe a'r cyfle i wneud mwy o waith ym maes pêl-droed. Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn lwyfan i mi allu gwneud yr hyn dwi eisiau ei wneud."
Mae Chloe Byrne, 18, a Jade Winder, 25, wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd ac mae'r ddwy yn gobeithio y bydd y llwyfan yn helpu pobl mewn angen.
Mae'r ddwy yn byw yn Yr Hafod, llety sy'n cynnig cefnogaeth yn Ninbych, sy'n cael ei redeg gan gwmni Gorwel.
Dywedodd Ms Byrne, sy'n dod o Brestatyn yn wreiddiol: "Rwyf wedi byw yn yr Hafod am chwe mis. Fe brofais gamdriniaeth ddomestig yn y teulu, a phan fu farw fy nain roeddwn yn ddigartref.
"Mae Gorwel wedi bod yn dda iawn ac wedi darparu llawer o gefnogaeth i mi gyda phethau fel cyllidebu ariannol, coginio, gwella fy lles, a hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Ychwanegodd ei bod hi'n gobeithio bydd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i gyflwyno negeseuon allweddol am ddigartrefedd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y twrnamaint yn taflu goleuni cadarnhaol ar ddigartrefedd a'r gefnogaeth sydd ar gael ledled y wlad," meddai.
"Fy nghyngor i unrhyw un sydd ar fin bod yn ddigartref yw i gael gafael ar yr holl gymorth y gallwch chi, gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud, a pheidio â rhoi'r gorau iddi.
"Mae'n wirioneddol gyffrous ein bod ni'n chwarae yng Nghwpan y Byd a'r nod, wrth gwrs, yw ennill!"
'Maen nhw'n ysbrydoliaeth'
Dywedodd Ms Winder: "Dim ond tri mis yn ôl y dechreuais i chwarae pêl-droed, a rwan rydw i ar fin chwarae yng Nghwpan y Byd!
"Mae hynny i gyd oherwydd staff yr Hafod. Fe wnaethon nhw fy annog i fynychu'r treialon a chefais fy newis. Mae'n enghraifft arall ohonynt yn eich cefnogi yn fwy na dim ond darparu llety i ni.
Dywedodd Osian Elis, rheolwr cynorthwyol Gorwel: "Mae'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Chloe a Jade wedi bod yn anhygoel.
"Mae hyn y tu allan i'r arferol iddynt ac mae wedi eu herio yn feddyliol ac yn gorfforol gyda'r treialon ar ben yr hyfforddiant wythnosol yng Nghaerdydd. Maen nhw'n ysbrydoliaeth."
Bydd Cymru yn chwarae yn y gêm agoriadol brynhawn Sadwrn.