Sgandal gwaed: 'Arbrawf ar gleifion i bob pwrpas'

Ffynhonnell y llun, Smith family

Disgrifiad o'r llun, Cafodd rheini Colin Smith wybod pan oedd yn ddwy oed ei fod wedi cael ei heintio a bu farw yn saith oed

Mae cyfreithiwr teuluoedd sy'n rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus yng Nghaerdydd i'r sgandal gwaed heintiedig yn dweud na ddylid gwarchod enw da arbenigwr meddygol wnaeth arbrofi "i bob pwrpas" ar gleifion.

Yn 么l Des Collins, mae'n bosib y byddai'r diweddar Athro Arthur Bloom wedi wynebu cyhuddiadau o ddynladdiad petai o'n dal yn fyw mewn cysylltiad 芒 marwolaethau cleifion oedd yn ei ofal yn y 1980au.

Mae yna amcangyfrif bod 300 o Gymry wedi cael eu heintio 芒 chyflyrau fel Hepatitis C neu HIV yn sgil derbyn cynnyrch gwaed anniogel o America.

Dywedodd teulu Colin Smith, a fu farw yn saith oed yn 1990, wrth yr ymchwiliad ddydd Mercher eu bod yn credu i'w mab gael ei gynnwys mewn arbrawf o'r cynnyrch heb eu caniat芒d nhw.

Roedd yr arbrawf yn cynnwys cleifion 芒 diagnosis o hemoffilia oedd heb eu heintio ag unrhyw afiechyd eisoes, ac mae'r gwrandawiad wedi clywed manylion llythyr gan yr Athro Bloom at ymgynghorwyr eraill yn 1982 yn amlinellu pwysigrwydd cynnal astudiaeth o'r fath.

Fe ddatgelodd raglen Panorama y 成人快手 ddwy flynedd yn 么l bod yr Athro Bloom, o fewn blwyddyn i'r llythyr hwnnw, wedi bod yn trafod goblygiadau cael Aids i gleifion hemoffilia gyda chydweithwyr.

Roedd yn argymell y byddai'n "bwyllog" i roi triniaeth fwy arferol a thrafferthus i blant dan bedair oed, yn hytrach na rhoi cynnyrch gwaed wedi ei fewnforio.

Ond ni ddigwyddodd hynny yn achos Colin ac fe gafodd ei heintio 芒 HIV ar 么l derbyn gwaed heintiedig.

Ffynhonnell y llun, Infected Blood Inquiry

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Colin a Janet Smith bod eu cartref wedi cael ei dargedu wedi hysbysebion teledu yn codi ymwybyddiaeth am Aids

Clywodd yr ymchwiliad mai mewn coridor ysbyty y cafodd ei rieni wybod bod eu mab, oedd yn ddwy oed ar y pryd, wedi ei heintio 芒 HIV.

Dywedodd Janet Smith, sy'n byw yng Nghasnewydd, bod yna effaith "ddinistriol" ar eu bywydau pan ddaeth pobl leol i wybod, tua'n un pryd ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth am Aids.

Cafodd negeseuon sarhaus a chroesau eu paentio y tu allan i'w cartref, cafodd eu car eu difrodi, ac roedd eu plant h欧n yn cael eu gwawdio.

"Roedd pobl yn croesi'r stryd i'n hosgoi, yn bygwth tynnu eu plant o'r ysgol os oedd Colin yn mynd yno," meddai.

Dywedodd Colin Smith (tad) eu bod yn derbyn galwadau ff么n "ddydd a nos", a'i fod wedi colli ei swydd am fod ei gyflogwr yn ofni colli cwsmeriaid.

'Dynladdiad, yn 么l pob tebyg'

Mae teulu Colin Smith ymhlith cannoedd sy'n cael eu cynrychioli yn yr ymchwiliad gan Mr Collins, a ddywedodd wrth raglen Eye on Wales bod Yr Athro Bloom "i bob pwrpas ymarferol" yn arbrofi ar ei gleifion.

"Roedd yn defnyddio'r deunydd oedd ar gael iddo i arbrofi ar eu mab mewn amgylchiadau lle nad oedd ganddo'r awdurdod i wneud hynny, ac mae hynny'n gyfystyr ag ymosodiad.

"Fe fyddai'n ddynladdiad, yn 么l pob tebyg, gan fod Colin wedi marw.

"Ni ddylai gadw ei enw da. Roedd e'n gwybod beth roedd e'n ei wneud. Nid camgymeriad oedd hyn.

Disgrifiad o'r llun, Bu farw'r Athro Arthur Bloom, oedd yn flaenllaw yn ei faes, yn 1992

"Fyddai rhai'n dweud ei fod wedi gwneud ei orau, ond os taw dyna oedd ei orau, roedd mor bell yn brin o'r safonau priodol, boed nawr neu yn y gorffennol, byddo'n anghywir iddo gadw ei enw da.

"Nid ymgais mo hwn i niweidio enw da dyn wedi iddo garw ag yntau'n methu amddiffyn ei hun, fe ddinistriodd ei enw da ei hun.

Mae'r rhaglen yn datgelu bod dau o gleifion h欧n yr ymgynghorydd wedi mynd ati i gasglu dogfennau, yn cynnwys cofnodion meddygol Colin, i ganfod mwy am yr arbrawf.

Daeth y brodyr Haydn a Gareth Lewis o Gaerdydd o hyd i doreth o wybodaeth oedd "yn pwyntio'r bys at Arthur Bloom ond yn anffodus wnaeth neb gwrando arnyn nhw".

Bu farw'r ddau frawd yn eu 50au yn 2010 ar 么l cael eu heintio 芒 HiV a Hepatitis C.

Aros am gasgliadau

Bu farw'r Athro Bloom yn 62 oed yn 1992, ac mae canolfan hemoffilia yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi ei henwi ar ei 么l.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn datganiad eu bod yn cydweithredu'n llawn 芒'r ymchwiliad cyhoeddus ac am gefnogi'r adolygiad annibynnol ymhob ffordd bosib.

"Ni allen ni ymateb i honiadau hanesyddol ar hyn o bryd - byddem yn aros am gasgliadau'r ymchwiliad ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol," meddai'r bwrdd.

Ychwanegodd y datganiad eu bod yn parhau 芒'r cydweithio gyda Haemophilia Wales i gefnogi cleifion a pherthnasau sy'n rhan o'r ymchwiliad, ac yn "ceisio deall y goblygiadau... ac os mae angen rhagor o newidiadau i gadw ein cleifion yn ddiogel".

Bydd mwy am y stori ar raglen Eye on Wales ar 成人快手 Radio Wales am 18:30 nos Fercher, 24 Gorffennaf.