Sgandal gwaed heintiedig: 'Rhaid disgyn ar eu bai'

  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 成人快手 Cymru

Cafodd miloedd o bobl eu heintio gan waed yn ystod yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y sgandal driniaeth waethaf erioed yn y gwasanaeth iechyd yn y 1970au ac 80au.

Bu farw nifer o ganlyniad i afiechydon fel AIDS a Hepatitis C, a'r wythnos hon mae ymchwiliad cyhoeddus yn clywed gan Gymry gafodd eu heintio a theuluoedd y rhai fu farw.

Yr amcangyfrif yw bod o leiaf 300 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio ond nid yw'r ffigwr yn cynnwys pobl fu farw heb wybod eu bod wedi'u heffeithio.

Dyma yw'r ymchwiliad cyhoeddus mwyaf o'i fath erioed ym Mhrydain.

Dyma stori Jane Jones o Wynedd.

Disgrifiad o'r fideo, "Os mai dyma sydd o 'mlaen i, waeth i mi orffen fy mywyd r诺an"

Cwestiwn annisgwyl gan y meddyg teulu ddechrau'r 1990au wnaeth achosi i Jane Jones ddechrau meddwl bod rhywbeth mawr o'i le.

"Dyma fo jyst yn gofyn, out of the blue dyma fo'n d'eud: 'A faint o ddiod feddwol ydach chi'n yfed?'

"A nes i feddwl, pam bod o'n gofyn hyn? A'r rheswm, dwi ddim yn yfed."

Roedd Jane, sy'n byw yn Y Groeslon ger Caernarfon, wedi bod yn teimlo'n flinedig ac yn cael poenau yn ei stumog.

Ar 么l gweld ei doctor fe benderfynodd gysylltu gyda'i meddyg gwaed.

Cafodd Jane ei geni gyda math o'r cyflwr hemoffilia - lle dyw'r gwaed ddim yn ceulo.

Ond fe ddarbwyllodd y doctor nad oedd angen iddi bryderu. Pan aeth hi yn 么l i'w weld er mwyn cael canlyniadau'r profion gwaed roedd y stori wedi newid.

"Peth cyntaf nes i sylwi, nodiadau o'i flaen o a sticer melyn ar y nodiadau a doedd o ddim yna rhai wythnosau yn gynt.

Danger of infection oedd y geiriau ar y sticer meddai.

Roedd gan Jane Hepatitis C.

'Mynd off a pheidio dod yn 么l'

Mae'n credu iddi gael gwaed heintus un ai pan gafodd fabi a bu'n rhaid iddi gael sawl peint o waed wedi'r enedigaeth, neu ar 么l iddi golli babi yn y groth.

Dyma'r union gyflwr oedd gan ei mam, ac mae'n ei chofio yn taflu fyny gwaed ac yn dioddef yn arw.

Pan ddaeth y newyddion bod ganddi hi'r un afiechyd daeth meddyliau tywyll i'w phen.

"Nes i gysidro nai fynd off a pheidio dod yn 么l.

"O'n i ddim yn meddwl bo' fi'n ddigon cryf i fynd trwy beth oedd mam yn mynd trwyddo.

"Be' o'n i ddim isio mwy na dim byd oedd fy mhlant i weld beth o'n i wedi gweld 'efo mam."

'Disgyn ar eu bai'

Am flynyddoedd wedyn cafodd Jane broblemau iechyd.

"Dwi'n cofio ryw fore dydd Llun. O'n i mor s芒l. Fedrai'm hyd yn oed egluro pa mor s芒l o'n i.

"A dyma fi yn deud wrtho fo [ei chymar]: 'Ti'n gwybod bo' fi yn marw heddiw dwyt?'."

O fewn awr ar 么l iddi gyrraedd yr ysbyty roedd hi yn yr uned gofal dwys. Roedd d诺r wedi bod yn casglu yn ei chorff ac wedi achosi twll yn ei diaffram.

Yn araf deg roedd ei hysgyfaint yn boddi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Yn y pendraw bu'n rhaid iddi gael afu newydd sydd wedi gweddnewid ei bywyd.

Mae'n flin iawn bod gwaed oedd yn heintus wedi cael ei ddefnyddio mewn triniaethau meddygol gan filoedd o gleifion.

Mae eisiau i'r rhai sy'n gyfrifol "ddisgyn ar eu bai".

"Dwi'n gobeithio daw y gwir i gyd allan a gwneud yn si诺r na geith dim byd fel'ma ddigwydd byth eto"