成人快手

'Hyd at 2,000 o bobl iau heb gael diagnosis dementia'

  • Cyhoeddwyd
Elin ap Hywel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Elin ap Hywel yn ei 50au pan gafodd hi wybod fod ganddi ddementia

Gallai hyd at 2,000 o bobl iau yng Nghymru fod yn byw gyda chyflwr dementia heb wybod, yn 么l elusen.

Mae Cymdeithas Alzheimer's Cymru yn galw am gynnig fwy o hyfforddiant i feddygon teulu er mwyn gallu adnabod symptomau a gwella'r broses o wneud diagnosis.

Yn 么l yr elusen, mae rhai pobl yn derbyn diagnosis anghywir o iselder, gor-bryder neu'r menopos.

Cafodd tua 500 ddiagnosis o ddementia cynnar yn 2017-18 yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru, ond mae Cymdeithas Alzheimer's Cymru yn honni y gallai hyd at 2,500 o bobl dan 65 fod yn byw 芒'r cyflwr.

Yn 么l y llywodraeth maen nhw'n ceisio gwneud yn si诺r bod gan bobl - gan gynnwys meddygon teulu - yr wybodaeth a'r sgiliau i roi'r gofal gorau i bobl iau sydd 芒 dementia.

Cafodd Elin ap Hywel o Aberystwyth wybod fod ganddi ddementia y llynedd - a hithau yn ei 50au.

Dywedodd ei bod hi'n gwybod ers blynyddoedd bod rhywbeth o'i le, a bod hynny wedi dod yn fwy amlwg pan oedd hi ar wyliau diweddar gyda'i gwr yn Yr Almaen.

"Doeddwn i methu deall yr hyn yr oedd fy mhartner i yn ei ddweud. Roedd e'n ddychrynllyd, hollol ddychrynllyd," meddai.

"Roedden ni'n gobeithio am wyliau hyfryd ond y cwbl oedd yn mynd drwy fy meddwl oedd 'Be os ydw i'n eu colli nhw? Dwi methu siarad Almaeneg.'

"Roedd e'n ofnadwy."

'Anodd iawn i'w egluro'

Roedd Ms ap Hywel yn 17 oed pan gyhoeddodd hi ei chyfrol gyntaf o gerddi, ond erbyn hyn dydy hi ddim yn barddoni ac mae hi wedi rhoi'r gorau i'w gwaith.

"Roedd rhywbeth yn fy ymennydd wnaeth benderfynu nad oedd e eisiau gwneud unrhywbeth. Mae'n anodd iawn i'w egluro, ond mae e'n ofnadwy.

"Daeth i'r amlwg i mi a phobl eraill nad oeddwn i'n gallu gwneud pethau fel bancio, a phethau eraill y mae pobl yn disgwyl i chi allu 'neud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen gwella ymwybyddiaeth o ddementia cynnar, yn 么l Menna Boynes o Gymdeithas Alzheimer's Cymru

Pobl h欧n sydd fwyaf tebygol o gael dementia, ac mae tua 40,000 o achosion yng Nghymru, ond mae Cymdeithas Alzheimer's Cymru yn credu bod angen gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia cynnar.

Mae dementia cynnar fel arfer yn effeithio pobl rhwng 30 a 65 oed.

Yn 么l Menna Boynes o'r elusen "nid y cyhoedd yn unig sy'n meddwl mai cyflwr sy'n effeithio ar yr henoed yw dementia".

"Os yw person ifanc yn mynd at eu meddyg, nid yw dementia yn aml yn cael ei ystyried... pe bai ymwybyddiaeth yn cynyddu byddai hynny'n golygu bod dementia ar yr agenda," meddai.

Mae'r gwaith ymchwil mwyaf yn y byd er mwyn dysgu mwy am bobl iau a dementia yn cael ei gynnal gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ers dechrau cymryd meddyginiaeth fel rhan o'r gwaith ymchwil yma, mae Ms ap Hywel yn dweud bod ei symptomau wedi gwella ac mae hi'n benderfynol o fyw ei bywyd mor annibynnol 芒 phosib.

"Mae mynd i'r dref yn iawn. Fedra i fynd ar y bws, fedrai gwrdd 芒 ffrindiau am goffi. Pan dyw pethau ddim fel y disgwyl, dyna pryd mae hi'n mynd yn anodd."

Ers cael y diagnosis llynedd, mae Ms ap Hywel yn siarad yn onest am y ffordd mae dementia wedi newid ei bywyd hi - er mwyn helpu ei hun ac eraill.

Rhyw ddydd mae hi'n gobeithio ail-ddechrau barddoni.