'Dawnus 芒 dyledion o dros 拢50m' pan aeth i ddwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Roedd gan gwmni adeiladu o Abertawe ddyledion o bron i 拢50m pan aeth i drafferthion ariannol yn gynharach eleni.
Roedd Dawnus yn cyflogi tua 700 o bobl ac yn gyfrifol am 44 o safleoedd adeiladu pan gafodd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod 拢1.5m yn ddyledus iddynt ar 么l i'r cwmni dderbyn benthyciad yn ystod cyfnod o ansicrwydd ariannol.
Dywedodd y gweinyddwyr, Grant Thornton, ei bod hi'n "annhebygol iawn" y bydd modd adennill yr holl arian.
Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn hyderus y byddai'r arian yn cael ei dalu 'nol yn llawn.
Yn 么l Grant Thornton, mae'n bosib y bydd y llywodraeth yn derbyn peth o'r arian ond mae'n debygol na fydd y ddyled yn cael ei dalu 'nol yn llawn.
Roedd gan Dawnus ddyledion o 拢40.4m i gyflenwyr a chontractwyr pan aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae gwerth 拢5m o gyflogau yn ddyledus i'w gweithwyr, tra bod gwerth 拢3m o drethi hefyd heb eu talu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019