³ÉÈË¿ìÊÖ

Ateb y Galw: Y cyflwynydd Gaynor Davies

  • Cyhoeddwyd
Gaynor Davies

Y cyflwynydd Gaynor Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Catrin Beard yr wythnos diwethaf.

Bydd Gaynor yn cyflwyno ar Radio Cymru o fis Mehefin ymlaen, gan ddarlledu bob nos Sadwrn, yn dilyn ymddeoliad Wil Morgan.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cofio bod ar fferm fy nhaid ac yn gweld yr hwch yn geni moch bach, ac yn mynd i banic llwyr, a rhedeg i chwilio am Taid i ddeud wrtho fod rhaid iddo fo frysio yna gan bod y moch bach i gyd mewn perygl o fygu gan eu bod yn cyrraedd mewn bagiau plastic!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Donny Osmond… David Cassidy… Rod Stewart... George Best… Björn Borg... Wel, mae gan ferch hawl i newid ei meddwl…yn aml!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David Cassidy, Donny Osmond a Björn Borg. Roedd angen digon o wallt i gipio calon Gaynor, mae'n debyg...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan o'n i'n gweithio fel gweinyddes mewn caffi a mynd â sudd oren i gwsmer. Dwi'm yn siŵr iawn be' ddigwyddodd, ond fel rhyw fath o hunllef mewn slo-mo, fe hedfanodd y sudd o'n llaw i, ac fel rhyw fwa oren drwy'r awyr, glanio ar ben y cwsmer, ei brechdan, a fi! O'n i ddim yn gwbod tan hynny fod sudd oren yn beth mor stici!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ddoe - nes i hitio 'mhen yn boot y car. Waaaaw roedd o'n brifo!!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta creision - gormodedd!

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy nghartref yn Y Felinheli - pobl clenia' fu, a'r olygfa ora' yn y byd!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae 'na gymaint ohonyn nhw, mae wir yn amhosib dewis un. Rhai'n arbennig oherwydd lleoliad anhygoel, ond y rhan fwyaf oherwydd cwmni da - a llwyth o chwerthin! Os dwi wedi chwerthin hyd at ddagrau, mae hi'r noson ora erioed - tan yr un nesa'!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gwydr hanner llawn!

Disgrifiad o’r llun,

Gaynor yn ystod ei chyfnod gwyllt yn cyflwyno Hafoc yn ystod yr 80au a 90au

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi wrth fy modd yn darllen ac mae gen i bob amser lyfr (neu chwech) wrth ochr fy ngwely. Y llyfr ddechreuodd hyn i gyd i mi flynyddoedd maith, maith yn ôl oedd The Enchanted Wood gan Enid Blyton. Cofio edrych ymlaen i'w ddarllen bob nos, a chwerthin yn uchel ar yr hen Mr Saucepan Man druan.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gyda fy nheulu i gyd. Mae gen i ddwy chwaer, un hefo pedwar o blant a'r llall hefo dau, mae gan rhai o'r rheiny hefyd blant eu hunain erbyn hyn. Roedd fy mam a'n nhad yn unig blant, felly mae'n rhyfeddod i mi, pan 'da' ni gyd yn dod at ein gilydd, gweld fod y cwpwl yna o ddau wedi tyfu i fod yn deulu o bron i ugain - a mwy i ddod! Ma'n nhw'n amseroedd llawn bwrlwm, hwyl a chariad!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hollol obsessed hefo gwylio rhaglenni am dai - prynu tai, gwerthu tai, a'u hadnewyddu nhw. Mae'n rhyfeddol faint o'r rhaglenni 'ma sydd ar y teledu - ar unrhyw awr o'r dydd a nos! Falle ddylwn i fod wedi bod yn arwerthwr tai.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ar Werth yn rhaglen ar S4C sy'n dilyn rhai o werthwyr tai Cymru. Mae'n siŵr fod Gaynor yn wyliwr brwd

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ei dreulio yng nghwmni teulu a ffrindiau, yn bwyta llwyth o greision - heb deimlo'n euog!

Beth yw dy hoff gân a pham?

That's Life gan Frank Sinatra

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Bwyd môr, cyw iâr, ffrwythau ffres.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Faswn i wrth fy modd yn cael bod yn fy mab Steffan am ddiwrnod. Mae gan Steff anghenion arbennig ac o ganlyniad, fawr o iaith lafar. Faswn i wrth fy modd cael gwybod be' sy'n mynd ymlaen yn ei feddwl, a be' mae o'n ei deimlo am wahanol bethau sy'n digwydd yn ei fywyd.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Daloni Metcalfe

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru Fyw