成人快手

Ateb y Galw: Y ddarlledwraig Catrin Beard

  • Cyhoeddwyd
Catrin BeardFfynhonnell y llun, Catrin Beard

Y ddarlledwraig Catrin Beard sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Mari Beard yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae yn yr Ysgol Feithrin yn Llundain, a theimlo trueni dros y plant eraill am nad oedden nhw'n gallu fy neall i'n siarad Cymraeg.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

JPR Williams - ei wallt yn donnau euraidd a'i sanau rownd ei figyrnau wrth sgorio ceisiau i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

JPR Williams (rhes gyntaf, trydydd o'r chwith) gyda gweddill t卯m rygbi Cymru cyn g锚m Pum Gwlad yn erbyn Ffrainc yn 1977

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cerdded yn borcyn o'r gawod i fy stafell wely, a gweld dyn y tu allan ar ysgol yn golchi'r ffenest. Mewn panic, es i lawr ar fy nghwrcwd i drio cuddio o dan y ffenest, heb gofio bod drych mawr ar y wal gyferbyn. Erbyn hyn, mae gennym ni lanhawr ffenestri newydd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dagrau cyson o anobaith oherwydd Brexit.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fydda i byth yn glanhau fy nghar. Mae fel twlc.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Craig Llysfaen ger Caerdydd, prom Aberystwyth, Llyn Llech Owain, Cwm yr Eglwys, Pont y Borth. Amhosib dewis un o blith yr holl fannau prydferth llawn atgofion yng Nghymru.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noswyl y Nadolig pan oedd y plant yn fach - y rhuthr a'r cyffro, gosod sheri a mins pei i Si么n Corn a moron i'r ceirw, ymdrech arwrol y plant i fynd i gysgu fel bod y bore yn dod yn gynt, a phum munud o lonydd cyn stwffio'r twrci a'i roi yn y popty i goginio dros nos.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Dibynadwy. Darllengar. Daiddimosoesprycopynyt欧.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Er nad ydw i wedi'i ddarllen ers degawdau, y llyfr gariodd fi drwy fy arddegau oedd Jane Eyre. Llawn awyrgylch, cymeriadau cryf a stori wych. Fe dreuliais i fis Ionawr eleni ar Ynys Fadog gyda Jerry Hunter a'i ddarlun epig o hanes America a'r Cymry ymfudodd yno. Ar hyn o bryd dwi'n mwynhau llyfrau John Boyne - doniol ac eithriadol o ddeifiol. Wythnos nesa', bydd y dewis yn wahanol, ond bydd Jane Eyre yn dal yna.

Ffynhonnell y llun, Catrin Beard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae copi Catrin o Jane Eyre ag 么l darllen mawr arno

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dorothy Parker. Cocktail yn Efrog Newydd gyda menyw fwyaf ffraeth yr 20fed ganrif - pwy fyddai'n gwrthod y fath gyfle?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi oedd llais mam Dai Texas yn Superted.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dai Texas - 'mab' Catrin. Oes tebygrwydd teuluol?

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dathlu fy mhen-blwydd yn 350 oed gyda fy ngor-or-or-or++ wyrion.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Mil harddach wyt na'r rhosyn gwyn. Roeddwn i'n ei chanu i fy mhlant pan oedden nhw'n fabis.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Yn lle pryd, llond bwrdd o gawsiau, olifau, grawnwin, bara Ffrengig, coffi cryf a gwin gwyn oer dan gysgod coeden yn Ffrainc, ynghyd 芒 phlatiad o brownies Si芒n fy chwaer. Byddai'r profiad yn gymaint mwy na blas yn unig.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Michelle Obama.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Gaynor Davies

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw