Gwasanaeth LGBT aml-ffydd Abertawe yn 'ddathliad'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bwysig dangos ei fod yn "ok bod yn hoyw" a bod 芒 ffydd, yn 么l gweinidog fydd yng ngofal gwasanaeth aml-ffydd arbennig ddydd Sul.
Y Parchedig Wyn Thomas fydd yn arwain y seremoni yn Eglwys Undodaidd Abertawe - sy'n digwydd ar yr un penwythnos a dathliadau Pride y ddinas.
Mae'r eglwys yn un o 21 lleoliad yng Nghymru sydd wedi cofrestru i gynnal seremon茂au un rhyw.
Ond mae rhai yn pryderu nad oes digon o ymwybyddiaeth am y gallu i gynnal priodasau un rhyw mewn addoldai.
Rhywbeth i ddathlu
Mae priodasau un rhyw wedi bod yn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ers 2014.
Gobaith un o'r pregethwyr yn y gwasanaeth aml-ffydd LGBT ydy dangos "bod e'n ok".
"Dyw e ddim yn gyfrinach mod i'n weinidog ac yn hoyw, ac mae'n bwysig dangos bod e'n rhywbeth i ddathlu a bod yn falch ohono," meddai'r Parchedig Thomas.
Ychwanegodd ei fod wedi cytuno i gymryd rhan yn y gwasanaeth yn y gobaith o roi cymorth i unrhyw un sydd 芒 ffydd a sy'n hoyw.
Dywedodd bod yr Eglwys Undodaidd yn "groesawgar iawn" ond bod "yn sicr lle i wella a dangos bod e'n ok - dyw e ddim yn od, 'dy [rhywun yn yr un sefyllfa] ddim ar ben ei hunain".
"Dyna sy'n bwysig... 'na pwynt Pride a pwynt y gwasanaeth hyn."
Gobaith y trefnwyr ydy y bydd y gwasanaeth, gyda chynrychiolwyr Cristnogol, Iddewig a Bwdaidd ymysg eraill, yn annog mwy o addoldai i ganiat谩u priodasau.
Dywedodd Rory Castle Jones, aelod o'r Eglwys Undodaidd yn Abertawe, bod "y rhan fwyaf o gyplau hoyw ddim yn teimlo bod opsiwn iddyn nhw briodi mewn eglwys".
Priododd Mr Castle Jones ei bartner, Rhys, mewn eglwys yn 2016 - penderfyniad oedd yn "bwysig iawn yn bersonol i fi a'm mhartner".
"Weithiau mae pobl yn cael profiadau drwg pan maen nhw'n ffonio capeli ac eglwysi ac yn dweud 'Hoffwn i briodi fy mhartner o'r un rhyw' ac mae'r ff么n yn cael ei roi lawr.
"Mae pobl yn gallu bod yn annifyr ac felly y peth hawsaf i'w wneud wedyn ydy mynd i ddarganfod gwesty neu swyddfa gofrestru."
Yng Nghymru mae'n rhaid i addoldai wneud cais ysgrifenedig swyddogol i gynnal priodasau un rhyw.
Mae un yr un yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Bro Morgannwg, dau yng Nghaerffili a Sir G芒r, tri yn Rhondda Cynon Taf, pump yng Ngheredigion a chwech yng Nghaerdydd.
Mae'r rheiny'n cynnwys addoldai sy'n cael eu defnyddio gan Undodwyr, Annibynwyr, Bedyddwyr, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Ysbrydegwyr.
Nid yw'r Eglwys yng Nghymru yn cynnal priodasau un rhyw.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd bod yr eglwys yn glynu wrth briodasau fel undod rhwng dyn a dynes, ond derbyniodd bod cyplau un rhyw sydd mewn perthnasau ffyddlon yn haeddu cefnogaeth yr eglwys.
Rhyddid crefyddol
Dywedodd elusen hawliau LGBT Stonewall Cymru ei fod yn bwysig i addoldai wneud eu penderfyniad eu hunain am gynnal priodasau un rhyw.
Dywedodd Andrew White: "Rydyn ni wedi sefyll dros ryddid crefyddol ers tro, er efallai nad ydyn ni'n cytuno bob tro.
"Os nad ydych chi'n gallu priodi fel cwpl un rhyw yn eich capel lleol, er bod hynny'n drist, nid ydych am orfodi hynny arnyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018