成人快手

Galw ar Gymru i leihau allyriadau carbon o 95%

  • Cyhoeddwyd
defaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pwyllgor am i dir pori Cymru leihau o 25% erbyn 2050;

Dylai Cymru osod targed i leihau allyriadau carbon o 95% erbyn 2050, o gymharu 芒 lefelau 1990, yn 么l corff sy'n cynghori Llywodraeth Prydain.

Mae hyn yn uwch na tharged newydd Llywodraeth Cymru, sy'n 80%.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd am i Gymru dorri nifer y defaid a'r gwartheg sy'n pori, plannu mwy o goed a rhoi mwy o gymorth i ddiwydiant trwm.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried y cyngor yn llawn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Chris Stark yn credu bod modd cyflawni'r targedau

'Newid pwyslais mawr'

Yn 么l adroddiad y pwyllgor, mae Cymru'n gwneud yn dda gyda chynlluniau ailgylchu ond gallai wella eto.

Dywedodd Chris Stark, prif weithredwr y pwyllgor: "Mae'n newid pwyslais mawr ond mae'n un rydyn ni'n credu mai modd ei gyflawni".

Ond mae'r targed yma i fod yn ddi-garbon erbyn 2050 yn is yng Nghymru na gweddill Prydain.

Mae'r targedau yn "uchelgeisiol" ond yn deillio o bwysigrwydd amaethyddiaeth a diwydiannau trwm yma yng Nghymru, yn 么l y Pwyllgor.

Prif argymhellion

  • Mae gan Gymru allyriadau carbon cymharol uchel yn sgil amaethyddiaeth, y diwydiannau cig oen a chig eidion;

  • Mae 74% o dir Cymru'n dir pori ac mae'r pwyllgor yn credu bod modd lleihau hynny o 25% erbyn 2050;

  • Ar yr un pryd, byddai cyfraniad cadarnhaol i lefelau carbon yn dod o dir coedwigaeth fyddai'n cynyddu tua 70%;

  • Mae gan Gymru gyfran uwch o lawer o allyriadau o ddiwydiant (30%) o gymharu 芒 Phrydain yn gyfan (22%), oherwydd y diwydiant dur yn benodol ond mae'r pwyllgor yn awgrymu bod modd lleihau'r rhain yn y tymor hir;

  • Gallai'r gyfradd ailgylchu yng Nghymru godi ymhellach - o 60% i 70% erbyn 2025;

  • Bod mwy o bobl yn cerdded a beicio;

  • Bod angen mwy o gyngor i addasu adeiladau presennol o ran y defnydd o ynni;

  • Annog gweithgynhyrchu carbon isel;

  • Plannu mwy o wrychoedd a gwelliannau amaethyddol eraill i leihau llygredd ac allyriadau a gwella cynefinoedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Cymru dipyn o 'ddala lan' i'w wneud o ran ynni adnewyddadwy, yn 么l Haf Elgar

'Gallu mynd yn bellach'

Ond yn 么l y pwyllgor, nid oes modd i Lywodraeth Cymru gyflawni'r targed o 95% heb i bolis茂au Llywodraeth Prydain a pholis茂au datganoledig "gynyddu'n sylweddol".

Mae Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru yn "croesawu'r adroddiad" gan ddweud ei fod yn gychwyn da.

"Ond 'da ni'n credu bod Cymru'n gallu mynd yn bellach ac yn gynt i dorri ein hallyriadau ni," meddai.

"Mae 'na elfennau yn yr Alban - er enghraifft ynni adnewyddadwy - lle maen nhw wedi achub y blaen, maen nhw wedi mynd ymhellach na ni.

"Felly mae tipyn o ddala lan gyda ni yng Nghymru, dwi'n derbyn hwnna'n llwyr ond 'da ni'n s么n yn reit hirdymor yma gyda tharged 2050."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Arallgyfeirio

Mae'r dadansoddiad gan y pwyllgor hefyd yn awgrymu bydd biliau tanwydd blynyddol rhwng 拢85 a 拢120 yn uwch hyd at 2030 ond bydd modd gosod hyn yn erbyn gwelliannau sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithiol.

"Bydd y sector amaethyddol yn ei chael hi'n anoddach i fod yn ddi-garbon ond mae'n newid enfawr," meddai Mr Stark.

"Bydd yn rhaid i bobl ddod o hyd i ffyrdd eraill o gynhesu eu cartrefi a theithio ar ffyrdd heb losgi tanwydd ffosil 鈥nd mae angen i Lywodraethau Prydain a Chymru i roi'r polis茂au ar waith i'w cyflawni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protestwyr tu allan i'r Senedd ar y Mai 1

Dadansoddiad ein Gohebydd Amgylchedd, Steffan Messenger

Mae lleihau allyriadau carbon o 95% yn dipyn o her, ond mynnu mae'r arbenigwyr bod modd cyflawni hyn.

Er bod Llywodraeth Cymru yn croesawu'r cyngor, maen nhw'n pwysleisio byddai mabwysiadu'r targed newydd yn eu rhoi dan bwysau sylweddol.

Maen nhw eisoes yn cael eu cyhuddo o beidio gweithredu yn ddigon cyflym, ac mae disgwyl iddynt fethu eu targed o leihau allyriadau o 40% erbyn 2020.

Roedd cwymp o 19% yn allyriadau Cymru yn 2015, o'i gymharu 芒 38% ar draws y Deyrnas Unedig fel un.

Mae hyn yn rhannol oherwydd problemau sydd tu hwnt i afael gweinidogion ym Mae Caerdydd, er mae adroddiad heddiw yn dangos bod modd defnyddio pwerau datganoledig i gyflawni mwy.

Mynnu mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd bod y cynllun 100-pwynt i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd, a gafodd ei lansio fis diwethaf, yn cael ei ffurfio yn bennaf gan ddefnyddio polis茂au sy'n bodoli'n barod.

Felly os ydi'r Llywodraeth am i'w datganiad o "argyfwng hinsawdd" olygu unrhyw beth, maen nhw'n dweud bod rhaid cyhoeddi targedau pellgyrhaeddol yn y dyfodol agos.

Mae gweinidogion yn yr Alban yn barod wedi dweud y bydden nhw'n cyflwyno deddf sy'n cydnabod eu targed newydd, sef cyflawni allyriadau 'net-zero' erbyn 2045.

'Croesawu'r cyngor'

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd y Llywodraeth Cymru "argyfwng hinsawdd" yn dilyn protestiadau'n mynnu bod gwleidyddion yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod yn "croesawu cyngor" y Pwyllgor.

"Rydym wedi cytuno i adolygu ein targed ar gyfer 2050 ac adrodd yn 么l i'r Cynulliad cyn gosod ein trydydd targed lleihau allyriadau carbon ar ddiwedd 2020," meddai'r llefarydd.

"Fe wnawn ystyried cyngor heddiw yn llawn ac eisoes rydym wedi gofyn i'r Pwyllgor i gynnig rhagor o awgrymiadau'r flwyddyn nesaf ar beth mae cyngor heddiw yn ei olygu i gyllidebau carbon ac i dargedau rhwng nawr a hynny."