成人快手

Cwricwlwm newydd: Y daith hyd yma - a'r camau nesaf

  • Cyhoeddwyd
Addysg

Mae'r daith tuag at gyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022 wedi "cyrraedd carreg filltir bwysig", medd Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi fersiwn drafft a dechrau ymgynghoriad.

Mae athrawon ac arbenigwyr o Gymru a thu hwnt wedi helpu dylunio'r cynnwys, sy'n amlygu newid "mawr o ran diwylliant", yn 么l y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, ac yn chwalu ffiniau traddodiadol rhwng pynciau.

Dyma atebion i rai o'r cwestiynau ynghylch effeithiau posib y newid i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion.

Pam bod cwricwlwm ysgolion yn cael ei newid?

Bydd y drefn newydd yn cymryd lle'r cwricwlwm cenedlaethol sydd wedi bodoli ers 1988.

Bryd hynny, roedd Margaret Thatcher yn 10 Downing Street a ffonau symudol yn dal yn bethau prin. A byddai degawd arall cyn i'r Cynulliad gael ei sefydlu a gwleidyddion Bae Caerdydd yn cymryd rheolaeth dros addysg.

Daeth datblygiadau technolegol a newidiadau mawr i'r ffordd y mae cymdeithas a'r economi'n gweithio ac mae hynny'n golygu bod angen sgiliau gwahanol ar bobl ifanc.

Dros 30 mlynedd, mae'r cwricwlwm presennol wedi cael ei addasu a sawl elfen wedi eu hychwanegu ac mae hynny wedi ei wneud yn drwsgl meddai'r beirniaid. Y nod yw cwricwlwm newydd sy'n fwy cyson ac yn fwy perthnasol.

Ond symbyliad mawr arall oedd pryder am safonau a chanlyniadau gwael Cymru mewn profion Pisa rhyngwladol. Gobaith gweinidogion yw bod y diwygio'n arwain at ganlyniadau gwell hefyd.

Beth fydd yn wahanol?

Fframwaith fydd hyn, nid cofnod manwl o'r hyn y dylai ysgolion fod yn ei ddysgu.

O fewn hynny, bydd ysgolion yn cynllunio eu ffyrdd eu hunain o wneud yn si诺r bod eu disgyblion yn datblygu.

Mae'r newidiadau mwyaf yn debygol o gael eu gweld mewn ysgolion uwchradd oherwydd bydd pynciau unigol yn cael eu disodli gan chwe maes dysgu a phrofiad eang.

A bydd sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn cael eu gweu drwy bob gwers.

Fe fydd llawer mwy o bwyslais ar greadigrwydd athrawon wrth ddehongli gofynion cwricwlwm.

Mae'r daith drwy'r ysgol hefyd i fod yn fwy cyson o dair i 16 oed gyda llai o naid rhwng yr ysgol gynradd ac uwchradd.

Sut fydd modd mesur llwyddiant disgyblion o dan y system newydd?

Ar hyn o bryd mae'r ysgol wedi'i rhannu'n gyfnod Sylfaen (tair i saith oed) ac yna cyfnodau allweddol.

Bydd hynny'n newid i gamau cynnydd ar gyfer pump, wyth, 11, 14 ac 16 oed fel bod modd dilyn yn fras y datblygiad fyddai'n cael ei ddisgwyl gan ddisgyblion.

Fe fydd profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar gyfer plant saith i 14 oed yn parhau, er gwaetha'r ffaith bod awdur yr adroddiad gwreiddiol ar y cwricwlwm newydd, yr Athro Graham Donaldson, wedi awgrymu bod angen llai o brofion yn y pen draw.

Y bwriad yw addasu arholiadau TGAU er mwyn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd ond mae cwestiynau mawr yngl欧n 芒 sut fydd yr arholiadau'n gweithio yng nghyd-destun yr addysg ehangach fydd y cwricwlwm newydd yn ei gyflwyno.

Beth yw barn ysgolion?

Mae gweinidogion yn pwysleisio bod ysgolion eu hunain wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y cwricwlwm newydd.

Mae tua 200 o ysgolion arloesi wedi cymryd rhan.

Yn sgil hyn mae pryder bod yr ysgolion yna'n llawer mwy parod ar gyfer y newid o'i gymharu ag ysgolion sydd ddim wedi bod yn rhan o'r broses.

Mae nifer o athrawon yn frwdfrydig iawn am y rhyddid y gallai'r cwricwlwm newydd gynnig i fod yn greadigol yn yr ystafell ddosbarth.

Ond mae eraill yn poeni gallai'r llwyth gwaith ddwysau a bod 'na ddiffyg eglurder yngl欧n 芒'r hyn sy'n cael ei ddisgwyl gan athrawon.

Beth am y gost?

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi diwrnod ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd bob blwyddyn a miliynau o bunnau er mwyn cael athrawon yn barod.

Ond ar yr un pryd mae mwy o benaethiaid yn codi pryderon am y wasgfa ar gyllidebau craidd.

Hyd yn oed os na fydd y cwricwlwm newydd yn fenter fwy costus yn ei hun, mae'r toriadau mae penaethiaid yn wynebu yn fwrn ychwanegol wrth geisio paratoi ar gyfer y newid.

A'r ymateb tu hwnt i giatiau'r ysgol?

Mae'r drafodaeth hyd yn hyn wedi'i chyfyngu'n bennaf i'r ysgolion arloesi ac arbenigwyr ym maes polisi addysg.

Ac mae'n annhebygol y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddarllen gan lawer y tu hwnt i'r rhain.

Ond prin iawn yw'r pethau sy'n bwysicach yn y tymor hir na beth a sut mae pobl ifanc yn dysgu.

Mae cyhoeddi'r fersiwn ddrafft hwn yn cael ei ystyried yn garreg filltir a chyfle i ehangu'r drafodaeth cyn i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno'n ffurfiol o 2022 ymlaen.

Beth fydd barn cyflogwyr a phrifysgolion? Ac a fydd y drefn newydd yn magu hyder rhieni mewn system addysg sydd wedi bod o dan y lach dros y blynyddoedd diwethaf?