Cyngor yn awgrymu gadael bargen ddinesig Bae Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe allai Cyngor Castell-nedd Port Talbot dynnu n么l o gynllun Bargen Ddinesig Dinas Ranbarth Bae Abertawe o fewn y chwe mis nesaf oni bai ei fod yn dechrau gwireddu rhai o'i brosiectau.
Mae'r cyngor wedi gofyn wrth y tri awdurdod lleol sy'n rhan o'r cynllun gwerth 拢1.3bn a llywodraethau Cymru a'r DU am newid cyfeiriad llwyr.
Eisoes mae dau adolygiad wedi beirniadu'r ffordd y mae'r fargen ddinesig yn gweithredu.
Mae adroddiad i gabinet y cyngor yn awgrymu taw gadael y fargen ddinesig, o bosib, fyddai'r "unig cam rhesymegol".
Nod y fargen - a gafodd ei harwyddo ddwy flynedd yn 么l ac sy'n cynnwys pedwar cyngor, dau fwrdd iechyd, dwu brifysgol a busnesau - yw hybu twf economaidd yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae yna bryderon wedi i bum aelod o staff Prifysgol Abertawe gael eu gwahardd mewn cysylltiad ag un o brosiectau'r fargen, Pentref Llesiant Llanelli.
Yn yr adroddiad i'r cabinet mae prif weithredwr yr awdurdod, Steven Phillips yn dweud bod dim golwg yn y dyfodol agos y byddai'r cyngor yn cefnogi prosiect sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wrth i gamau disgyblu fynd rhagddynt.
Mae'n dweud bod digwyddiadau diweddar "prin yn rhoi hyder" yn nhrefniadau rheoli'r brifysgol.
Blaenoriaethau eraill
Gydag adnoddau'n brin, dywed na allai'r cyngor barhau i gefnogi prosiectau bargen ddinesig pan fod yna flaenoriaethau eraill, a bod "biwrocratiaeth ormodol" y cynllun yn cryfhau'r ddadl dros dynnu n么l yn hytrach na cheisio ei wella.
Mae'r adroddiad yn nodi bod "dim ceiniog wedi ei wario" ar brosiectau hyd yma, ond bod hi'n amhosib cyfiawnhau parhau i fuddsoddi arian ac adnoddau yn ddi-ben-draw.
"Rhaid dysgu gwersi," mae'n dweud. "Rydym am i'r fargen ddinesig lwyddo ond... does dim cred y bydd heb newid radical."
Mae'r cyngor yn gobeithio parhau 芒 rhai o elfennau'r cynllun, gan gynnwys y prosiectau a .
Eisoes mae 16 o gartrefi'n cael eu datblygu yng Nghastell-nedd i gynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.
Ond dyw'r adroddiad ddim yn rhagweld cefnogaeth i achos busnes prosiectau eraill, gan gynnwys prosiect .
Dywedodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones bod y "misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i'r fargen ddinesig" a bod y cyngor bellach "yn credu bod ffordd arall o fynd ati yn hanfodol" i wireddu'r cynlluniau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017