成人快手

Ann Postle yn ennill tlws am gyfraniad sylweddol

  • Cyhoeddwyd
Ann PostleFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Ann Postle o Ynys M么n sydd yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol gan Urdd Gobaith Cymru yn gydnabyddiaeth o gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid drwy'r Gymraeg.

Yn fam i ddau o blant ac yn byw ym Modedern, mae Ann yn gweithio fel hyfforddwr ym maes gwaith cymdeithasol.

Bu'n cynorthwyo Aelwyd yr Ynys ac Uwch Adran yr Ynys ers wyth mlynedd, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw wrth sefydlu Adran Bro Alaw bedair blynedd yn 么l.

Yn fwy diweddar, sefydlodd Adran Bach ar gyfer criw o blant oed y Cyfnod Sylfaen.

'Mam Aelwyd yr Ynys'

"Os M么n yw Mam Cymru, Ann Postle yw Mam Aelwyd yr Ynys," meddai llefarydd ar ran yr aelodau a rhieni.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi sgriptio, hyfforddi a chyfarwyddo nifer o berfformiadau ar gyfer yr eisteddfodau ac yn y gymuned.

Mae hi wedi meithrin perthynas gyda chartrefi'r henoed yn lleol gan roi'r cyfle i blant a phobl ifanc fynd yno i berfformio, cynnal nosweithiau cymdeithasol ac wedi codi arian at achosion da.

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar ym maes ieuenctid.

Bydd seremoni arbennig i gyflwyno'r tlws ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro eleni.