Siopau yng Nghasnewydd yn gwerthu nwyddau vape i blant

Disgrifiad o'r llun, Roedd y plant 16 oed wedi gallu prynu nwyddau vape mewn 10 siop wahanol

Cafodd nwyddau vape eu gwerthu i blant dan oed yn hanner y siopau fu'n rhan o ymchwiliad gan 成人快手 Cymru yng Nghasnewydd.

Mae hi'n anghyfreithlon gwerthu unrhyw gynnyrch vape i berson dan 18 oed.

Ond fe wnaeth rhaglen X-Ray yrru dau berson ifanc 16 oed i 20 siop yng Nghasnewydd, ac fe lwyddon nhw i brynu hylif vape mewn 10 ohonynt.

Fe wnaeth Cymdeithas Diwydiant Vape y DU (UKVIA) roi'r bai ar werthwyr "diegwyddor", a galw am fwy o orfodaeth o'r rheolau.

Disgrifiad o'r llun, Llwyddodd y plant i brynu hylif vape o hanner y siopau oedd yn rhan o'r ymchwiliad

Mae nifer o bobl sy'n rhoi'r gorau i ysmygu yn troi at vape, ond mae ofnau bod pobl ifanc yn troi ato hefyd.

Mae rhai sy'n beirniadu'r nwyddau yn dweud bod eu blas yn aml yn apelio'n uniongyrchol tuag at blant - rhywbeth mae'r diwydiant yn gwadu.

Fel rhan o'u hymchwil fe wnaeth X-Ray yrru dau blentyn 16 oed gyda chamer芒u cudd i 20 siop o amgylch Casnewydd i geisio prynu nwyddau vape.

Fe wnaeth hanner y siopau ofyn am dystiolaeth oedran, ond fe wnaeth 10 siop werthu deunydd vape i'r plant heb wirio eu hoedran.

Dywedodd Dan Marchant o UKVIA bod "canllawiau yn glir - dydych chi ddim yn cael marchnata nwyddau i bobl dan 18 oed".