Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢15m i helpu landlordiaid cymdeithasol godi mwy o dai
Bydd聽拢14.67m yn cael ei roi i helpu landlordiaid cymdeithasol i adeiladu rhagor o gartrefi yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r arian ar gael drwy gynllun Tir ar gyfer Tai, sy'n galluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i fenthyg arian i brynu tir i adeiladu arno.
Gan mai darparu benthyciadau y mae'r cynllun, mae'r arian yn cael ei ailgylchu wrth i'r benthyciadau gael eu had-dalu.
Ers dechrau'r cynllun yn 2015, mae 拢52m wedi cael ei fuddsoddi, a 4,100 o gartrefi wedi'u hadeiladu, gyda 84% o'r rheiny yn dai fforddiadwy.
20,000 o dai fforddiadwy
Dywedodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Mae a wnelo tai 芒 chymaint yn fwy na briciau a morter.
"Mae mor bwysig bod tai diogel, fforddiadwy ar gael i bawb yng Nghymru fel y gallant gyflawni eu potensial."
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy" yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Mae 17 cynllun sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer 2018/19 wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam.聽