成人快手

Sefydlu cwmni bwyd yn Aberystwyth ar 么l ffoi o Syria

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn 么l un a ddaeth i flasu'r bwyd, roedd hi'n "braf gweld cenhedloedd yn dod at ei gilydd"

Mae ffoaduriaid o Syria, sydd bellach wedi ymsefydlu yng nghanolbarth Cymru, wedi mynd ati i ddechrau busnes drwy sefydlu bwyty pop-yp.

Mewn digwyddiad ym mwyty Medina yn Aberystwyth, daeth 120 o bobl at ei gilydd i flasu bwydydd oedd wedi ei paratoi gan griw o fenywod.

Daeth y teuluoedd cyntaf o Syria i Aberystwyth yn 2015, ac ers hynny, mae ymdrechion wedi bod i helpu'r teuluoedd i deimlo'n gartrefol yn y dref.

Roedd y digwyddiad yn rhan o brosiect integreiddio, sy'n cael ei redeg drwy'r Groes Goch.

Yn dilyn gwaith y prosiect, mae busnes newydd bellach wedi ei sefydlu, a gobaith y teuluoedd yw mynd 芒'u bwyty newydd i ddinasoedd ar draws Cymru a gweddill Prydain.

'Cynlluniau mawr'

Ar y cyd 芒'i hastudiaethau, mae Ghofran Hamza, sy'n 20 oed, yn gobeithio y bydd y busnes yn tyfu mewn poblogrwydd.

"Mae'r bwyd a'r digwyddiadau yma'n anhygoel, i ni gael gweld pobl yn mwynhau," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna gynlluniau i fynd 芒'r busnes ar daith i ddinasoedd eraill yng Nghymru a thu hwnt, medd Ghofran Hamza

"Rydym ni'n rhoi llawer o gariad a theimlad wrth greu'r bwyd yma, a dwi wrth fy modd yn gweld pobl yn derbyn y cariad yna.

"Dydyn ni ddim yn elusen, ac roeddem ni eisiau sefydlu'r busnes yma ar gyfer ein dyfodol, a dyfodol ein plant.

"Mae cynlluniau mawr gyda ni, a'r gobaith yw y bydd y peth yn tyfu ac yn mynd yn fwy poblogaidd.

"Y prif nod yw i fynd 芒'r bwyty ar daith o amgylch gwahanol ddinasoedd - nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r danteithion oedd ar gael ym mwyty Medina yn Aberystwyth

Dyma'r pedwerydd tro i'r bwyty pop-yp cael ei gynnal, a dyma'r un mwyaf uchelgeisiol eto.

Yn 么l Rose Bewick, sy'n gweithio i'r gwasanaeth ffoaduriaid yn y Groes Goch yn Aberystwyth, mae'r digwyddiadau'n rhan bwysig o integreiddio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rose Bewick, sy'n gweithio i'r Groes Goch, gydlynodd y prosiect sydd wedi arwain at sefydlu'r busnes

"Mae'r menywod yma wedi cyrraedd fel ffoaduriaid, ond maen nhw'n fwy na'r label yna," meddai Ms Bewick.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn herio'r syniad bod y menywod yn ddioddefwyr.

"Mae ganddyn nhw rywbeth pwysig iawn i gyfrannu, rhywbeth sydd angen ei ddathlu a rhywbeth y mae gwerth talu amdano."