成人快手

Traean dan 30 yn anwybyddu prawf canser ceg y groth

  • Cyhoeddwyd
Swab sy'n cael ei ddefnyddio mewn prawf sgrinioFfynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae holl brofion ceg y groth yng Nghymru nawr yn chwilio am y mathau o feirws risg uchel alla i arwain at ganser

Dydy traean o ferched o dan 30 oed sy'n cael eu gwahodd am brawf canser ceg y groth yng Nghymru ddim yn mynychu.

Dywedodd Gwasanaeth Sgrinio Serfigol Cymru bod tua 160 o achosion o'r clefyd bob blwyddyn, ar draws pob gr诺p oedran, ond mai'r dyma'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod iau.

Mae'r swyddogion yn rhybuddio bod menywod sydd yn datblygu'r clefyd, ac a fethodd fynd am brawf, yn dioddef llawer yn fwy yn y pen draw.

Mae'r ystadegau wedi ysgogi'r gwasanaeth sgrinio i lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol o dan y teitl #loveyourcervix.

"Rydym yn gwybod mai menywod rhwng 25 a 29 oed yw'r gr诺p oedran lleiaf tebygol i gael eu prawf," eglurodd Louise Dunk, sy'n arwain y rhaglen sgrinio yng Nghymru.

"Mae'r rhesymau y tu 么l i hyn yn gymhleth, ond yn aml rydyn ni'n clywed bod menywod yn teimlo embaras a chywilydd.

"Rydym yn galw ar i fenywod fod yn fwy positif am eu cyrff ac i garu pob rhan ohonynt eu hunain - hyd yn oed y rhannau hynny na allant eu gweld, fel ceg y groth.

"A'r ffordd orau i ofalu am eu serfics yw mynd i gael prawf sgrinio serfigol rheolaidd."

'Pryderus iawn'

Mae pob menyw yng Nghymru rhwng 25 a 49 oed yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio bob tair blynedd, gyda'r rhai rhwng 50 a 64 oed yn cael eu profi bob pum mlynedd.

Mae mwy na 99% o ganserau ceg y groth yn cael eu hachosi gan straen o'r feirws papiloma dynol (HPV).

Ffynhonnell y llun, Bev Downes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Beverley Downes gansyr ceg y groth pan oedd hi'n 29 oed

'Ffodus bod y canser wedi ei ddala'

"Ro'n i wedi symud rownd tipyn yn fy 20au, ac felly ro'n i'n hwyr iawn yn mynychu fy mhrawf cyntaf... ro'n i'n 29 mlwydd oed," meddai Beverley Downes o Gaerdydd, sydd nawr yn ceisio codi ymwybyddiaeth am brawf canser ceg y groth.

"Da'th y canlyniadau 'n么l i ddweud yn anffodus bod canser arna i'n barod, felly mi nes i golli'r cyfle mewn gwirionedd i ddala'r peth yn fwy cynnar.

"Do'n i ddim yn gwybod beth oedd y prawf yn checio amdano fe, a beth oedd yn mynd i ddigwydd.

"Do'n i ddim yn gwybod bod y prawf sgrinio yn edrych am newidiadau cyn canser, felly ro'n i'n ffodus iawn bod y canser wedi cael ei ddala.

"Dwi'n gwybod ymhlith fy ffrindiau ar y pryd mi na'th fy mhrofiad i annog i fwy o fenywod i fynd i gael eu prawf sgrinio, a hefyd beth ddigwyddodd i Jade Goody rhai blynyddoedd wedyn fi'n gwybod na'th hynny gael effaith fawr ar ymwybyddiaeth ymhlith menywod ifanc o beth oedd goblygiadau cael y prawf 'ma.

"Dwi'n sicr y bydde menywod o 25 i 29 erbyn hyn ddim yn ymwybodol o bwy oedd Jade Goody, ond mae 'na bobl eraill erbyn hyn sydd yn siarad am hwn, fel y model Chloe Delevingne, ac fe gafodd hi brawf sgrinio yn fyw ar y teledu er mwyn rhannu'r profiad a chymryd bach o'r ofn mas ohono fe."

Dywedodd un elusen canser ceg y groth ei bod yn "bryderus iawn" gweld nifer y menywod sy'n mynd am brawf yn gostwng bob blwyddyn.

"Rydym yn cefnogi Sgrinio Serfigol Cymru yn eu hymgyrch i geisio mynd i'r afael 芒'r dirywiad yn y niferoedd, ac yn y pen draw yn lleihau nifer y diagnosis canser a marwolaethau ymysg menywod yn y wlad," meddai Robert Music, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth 'Jo's'.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y fodel Chloe Delevingne brawf sgrinio ceg y groth yn fyw ar un o raglenni'r 成人快手 er mwyn codi ymwybyddiaeth am y prawf

Ym mis Medi 2018, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu profion HPV risg uchel fel y prawf cyntaf a wnaed ar bob sampl sgrinio serfigol, mewn ymgais i ddod o hyd i unigolion mewn perygl.

Mae rhaglen frechu wedi bod yn erbyn y feriws HPV ar gyfer yr holl ferched oedran ysgol uwchradd ers 2008.

Ond yn 么l Dr Ardiana Gjini o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae rhai canserau ceg y groth yn cael eu hachosi gan fathau o HPV nad yw'r brechlyn yn eu cynnwys.

"Mae'n dal yn bwysig i fenywod sydd wedi derbyn y brechlyn HPV fynychu ar gyfer eu profion ceg y groth pan g芒nt eu gwahodd," meddai Dr Gjini.

"Mae sgrinio serfigol yn arbed bywydau, mae mor syml 芒 hynny.

"Drwy beidio 芒 gwneud apwyntiad, rydych chi'n colli'r siawns o atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei godi yn gynnar pan fydd yn haws ei drin."