Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr actor Sion Alun Davies
Yr actor Sion Alun Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Gruffudd Glyn yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Pizza Heinz baked beans o Asda. B卯ns dan y caws.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Pocahontas.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Digwydd yn aml drwy beidio 芒 chofio enwau. Fi mewn st芒d barhaol o gywilydd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Mewn tywyllwch sinema. Ac yn fwy penodol yn ystod ffilm ddiweddaraf Pawel Paweloski, Cold War. Clasur. O'n i'n gobeithio 'sa hi 'di cael clod yn yr Oscars eleni. Ac wrth gwrs, wrth disian.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yn aml fydd fy mhen yn y ff么n lle dylwn i fod yn fwy presennol i'r byd. Si诺r o fod yn broblem i bawb ac yn achos mewn sawl ysgariad. Rhaid annog hunan ymwybyddiaeth a gwrthod yr angen i edrych ar 成人快手 Sport neu The Guardian.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd. Gartref a chanolbwynt y byd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
A&E.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Gweithgar, Cyfeillgar, Direidus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Newydd orffen Seven Deaths of Evelyn Hardcastle gan Stuart Turton. Fel Inception yn gymysg 芒 Black Mirror
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
David Cameron a gofyn '...pam?'
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi'n perthyn i'r actor Rupert Davies, enillydd cyntaf 'Pipe smoker of the year' yn 1964, a'r Maigret cyntaf.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Diolch i bawb am eu cymorth cyn gwibio i gartref newydd gofodol dynolryw i ddechrau bywyd newydd.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Ar hyn o bryd, Comeback Kid gan Sharon Van Etten. Newydd ddarganfod o'dd hi hefyd yn actores yn The OA ar Netflix.Talentog tu hwnt.
O archif Ateb y Galw:
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Pysgodyn bach, cinio Dydd Sul Mamgu a tharten afal Mamgu. Ma' hi'n wych ym mhob ystyr, ond yn sgil ei choginio fi'n credu gafodd Dad ei sbwylo pan yn tyfu lan.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Si么n Corn
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Marged Si么n