Cerddorion eisiau sbarduno sgwrs am annibyniaeth

Disgrifiad o'r llun, Bydd Charlotte Church's Pop Dungeon yn un o'r bandiau fydd yn perfformio nos Wener

Bydd cerddorion adnabyddus yn perfformio yng Nghaerdydd nos Wener, gyda'r bwriad o ddechrau sgwrs yngl欧n 芒'r posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru.

Cyn y gig yn y Tramshed, mae rhai sydd ynghlwm 芒'r fenter wedi galw ar bobl i uno a siarad yn gall am ddyfodol y wlad ar 么l Brexit, beth bynnag eu daliadau gwleidyddol.

Mae Charlotte Church, Cian Ciar谩n a Gruff Rhys o'r Super Furry Animals, Gwenno ac enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, Boy Azooga, yn rhan o'r gynghrair o artistiaid sydd wedi dod at ei gilydd i sbarduno'r sgwrs.

Dan adain Yes Is More!/Gellir Gwell! y bwriad yw cynnal cyfres o ddigwyddiadau creadigol gyda'r gobaith o annog pobl i feddwl am ddyfodol y wlad.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Cian Ciar谩n bod cerddoriaeth yn "rhoi gobaith i bobl"

Yn 么l Mr Ciar谩n - sy'n rhan o drefnu'r gig - syniad y fenter yw defnyddio cerddoriaeth i geisio sbarduno pobl i feddwl am eu bywydau.

"Yn hanesyddol mae cerddoriaeth fel arfer ynghlwm 芒'r amgylchedd sydd o dy gwmpas - be' sy'n digwydd yn dy bentref, dy ddinas, dy wlad," meddai.

"Ella ei fod o'n rhoi gobaith i bobl, sydd yr un mor bwysig, yn enwedig yn ddiweddar - dwi'n meddwl bod pobl angen gobaith."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Charlotte Church gall cerddoriaeth ysgogi dadl ond hefyd ddod 芒 phobl ynghyd

Dywedodd Ms Church, fydd yn perfformio gyda'i band Charlotte Church's Pop Dungeon nos Wener, ei bod yn credu bod y fenter yn ffordd bositif o ddechrau sgwrs am ddyfodol Cymru ar 么l Brexit.

"Rwy'n meddwl bod gan gerddoriaeth ran i'w chwarae, yn enwedig pan fo pethau'n mynd yn eithaf cas," meddai.

"Mae cerddoriaeth yn ffordd i bobl gael dadl, weithiau rhwng pobl sydd 芒 daliadau gwleidyddol cwbl wahanol, ond dod ynghyd dros y gerddoriaeth."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Griff Lynch bod canu gwleidyddol wedi bod yn draddodiadol yn yr iaith Gymraeg

Mae cerddoriaeth wedi chwarae r么l amlwg mewn ymgyrchoedd gwleidyddol yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Ond mae'r digwyddiad nos Wener a'r symudiad mae'r gr诺p yn gobeithio ei ysgogi yn wahanol i ymgyrchoedd y gorffennol am fod mwyafrif y bandiau yn uniaith Saesneg.

Dywedodd y cerddor a'r cynhyrchydd teledu Griff Lynch: "Un o'r pethau am ganu yn wleidyddol yng Nghymru ydy ei fod o wastad wedi perthyn i ganu o fewn yr iaith Gymraeg.

"Felly yn y gig yma, ti'n cael bandiau sy'n boblogaidd ledled Prydain yn canu a rhoi eu henwau mewn enw annibyniaeth, ac mae hynny'n rhywbeth newydd."