成人快手

Ateb y Galw: Yr actor Dyfan Dwyfor

  • Cyhoeddwyd
Dyfan DwyforFfynhonnell y llun, Ant Robling Photography

Yr actor Dyfan Dwyfor sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Lowri Gwynne yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n sicr yn cofio my mhenblwydd yn 2. Allai fyth anghofio y gacen siocled o'm mlaen.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

'Blaw Llinos o Hen Bont Road Cricieth? Heledd Cynwal!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dyfan Dwyfor yn hoffi Heledd, ond tybed ydi o bob amser yn cofio'i henw?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n ofnadwy am gofio enwau. Sawl stori erchyll.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Neithiwr, yn gwylio sioe Louis Theroux am farwolaeth

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Na. Dwi'n berffaith diolch. Haaaaa!

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar ben unrhyw fynydd. Tawelwch a'r smugness am fod allan yn yr awyr iach. A'r ffasiwn harddwch.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Sawl un yn dwad i'r meddwl - Grand Slam Cymru yn 2005, noson yn New Orleans efo ffrindiau, y parti ar 么l graddio...

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd dathlu gwyllt ar draws Cymru pan drechodd y cochion Iwerddon ac ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Egn茂ol, siaradus, anghofus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hoff lyfr: A Little Life gan Hanya Yanagihara. Anhygoel.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Richard Burton wrth gwrs.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Richard Burton, yr actor o Bontrhydyfen, yn arwr i nifer. Enillodd Dyfan Dwyfor Wobr Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ma' gen i beauty spot yn fy motwm bol.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gafael ar bawb dwi'n eu caru.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Gormod i ddewis.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Arancini, ham, wy a chips, wedyn tarten siocled.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ole Gunnar Solskjaer.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Gruffudd Glyn

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw