成人快手

Enw newydd Senedd Cymru i gynnwys esboniad Saesneg

  • Cyhoeddwyd
Senedd

Bydd y ddeddf sy'n ailenwi Cynulliad Cymru yn Senedd yn cynnwys esboniad Saesneg o ystyr y gair, yn 么l Llywydd y Cynulliad.

Mae 成人快手 Cymru ar ddeall bod rhai ACau yn anfodlon gyda bwriad Elin Jones i roi enw Cymraeg yn unig ar y sefydliad.

Yn 么l Ms Jones - sy'n gyfrifol yn y pen draw am waith dyddiol y sefydliad - mae'r rhan fwyaf o'r ACau yn cefnogi mabwysiadu'r enw Senedd.

Mae disgwyl deddfwriaeth yn yr wythnosau nesaf i ailenwi'r Cynulliad ac i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed yn etholiadau'r Cynulliad.

Fis Tachwedd diwethaf, dywedodd y Llywydd wrth ACau ei bod wedi penderfynu ar yr enw uniaith Gymraeg, 'Senedd', gan gynnig galw Aelodau Cynulliad yn Aelodau'r Senedd.

Mae 成人快手 Cymru wedi cael ar ddeall bod rhai aelodau, gan gynnwys rhan fwyaf y gr诺p Ceidwadol, yn gwrthwynebu'r penderfyniad.

Dywedodd un aelod bod y penderfyniad wedi cael ei "lastwreiddio". Dywedodd ffynhonnell o fewn y Cynulliad bod yna "gyfaddawd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elin Jones: "Dros amser bydd yr enw ffurfiol yn sefydlu ei hun"

Mewn cyfweliad i Sunday Politics, dywedodd Ms Jones ei fod yn "ymddangos i mi [mae'r enw 'Senedd'] sydd 芒'r gefnogaeth fwyaf" ymhlith ACau.

"Rydym yn Senedd Gymreig, rydym yn Senedd nawr, ac mae angen i ni roi'r enw yna ar ein hunain," meddai.

"Yn ffurfiol bydd y sefydliad yma yn cael ei alw'n 'Senedd', os yw aelodau yn cytuno i'r ddeddfwriaeth yna.

"Bydd y ddeddfwriaeth ei hun yn disgrifio'r Senedd fel 'the Welsh Parliament'.

"Bydd aelodau, pobl yng Nghymru, pobl tu hwnt i Gymru, nad sy'n siarad Cymraeg wrth gwrs yn gallu defnyddio'r term 'Senedd' a gobeithio bydd hynny'n dod yn fwy cyfarwydd i fwy o bobl.

"Ond wrth gwrs mae angen iddo gael ei ddisgrifio fel y Senedd Gymreig oherwydd mae hynny'n fwy dealladwy yn syth i'r bobl hynny sydd ddim yn siarad Cymraeg.

"Dros amser bydd yr enw ffurfiol yn sefydlu ei hun."

Mae Ms Jones yn cymharu'r enw 芒'r D谩il 脡ireann - fersiwn Iwerddon o D欧'r Cyffredin.

Gan gyfeirio at gynnwys yr esboniad Saesneg, ychwanegodd: "Dydw i ddim eisiau i bobl deimlo'n anghyfarwydd 芒'r hyn mae'r sefydliad yma'n ei wneud dim ond oherwydd ein bod wedi rhoi enw uniaith Gymraeg arno."

'Dim angen esboniad'

Mae'r penderfyniad "yn destun pryder", yn 么l Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n galw ar y Llywydd i ailystyried a pheidio ag "agor y drws ar roi enw dwyieithog ar y sefydliad".

Dywedodd cadeirydd y mudiad iaith,聽Osian Rhys: "Mae'r enw Senedd yn un mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a'i gefnogi, ac mae'n cael ei ddefnyddio'n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a'r di-gymraeg. Does dim angen esboniad yn Saesneg o'r hyn mae'r Senedd yn ei wneud.

"Dydy pobl Cymru ddim eisiau colli cyfle i normaleiddio'r Gymraeg. Rydyn ni'n galw ar y Llywydd felly i sicrhau na fydd disgrifiad Saesneg yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth, gan sicrhau mai'r enw a'r brand uniaith Senedd fydd yn cael ei ddefnyddio gan bawb.

"Mae'n ymddangos bod lleiafrif nawr yn trio pwyso am newid a fyddai'n golygu i bob pwrpas bod gan y Senedd enw dwyieithog.

"Mae mabwysiadu enw a brand uniaith Gymraeg yn gyfle i atgyfnerthu'r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir."

"Sunday Politics, 成人快手1 Wales, 11:00, ddydd Sul 19 Chwefror.