成人快手

Cofnodi enwau coll ponciau Dinorwig

  • Cyhoeddwyd
Chwarelwyr DinorwigFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Mae Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, yn apelio am gymorth i gofnodi hen enwau ar bonciau hen chwarel Dinorwig.

Y ponciau yw'r enw a roddwyd i'r platfformau roedd y chwarelwyr yn eu naddu yn wyneb y graig lechen, ac o'r ponciau hyn roedd y chwarelwyr yn gweithio i dorri'r llechi.

Roedd enwau unigryw yn cael eu rhoi ar y ponciau, ond yn anffodus, nid yw pob enw wedi cael ei gofnodi.

Bu Cadi Iolen o'r Amgueddfa, yn dweud hanes yr enwau ar raglen Aled Hughes ar 成人快手 Radio Cymru, a'r ap锚l i'r cyhoedd helpu i sicrhau nad yw'r hen enwau yn cael eu colli.

Nid ar chwarae bach!

Agorwyd y ponc cyntaf yn Ninorwig yn 1809 ac erbyn tua 1830 roedd pump ponc yn cael eu gweithio yn y chwarel. Tyfodd y rhif tan yr 1960au pan gaewyd y chwarel - erbyn hynny roedd dros 60 o bonciau wedi'u datblygu.

Roedd y platfformau yma'n dipyn o faint. Mae'n debyg am gyfnod yn Dinorwig, bod injan stem yn rhedeg o un ponc i'r un arall.

Dros amser dechreuodd y chwarelwyr enwi'r ponciau... ac mae'r enwau'n hollol amrywiol.

Mae rhai o'r enwau cynharaf ar 么l hen dyddynod a ddiflannodd wrth i'r chwarel gymryd drosodd - enwau fel Ponc Muria, Ponc Hafod Owen a Phonc Pant Ceubran.

Ond wedyn datblygodd yr arfer a dechreuwyd ddefnyddio enwau gwledydd, ac yn aml fel j么c roedd chwarelwyr yn arfer dweud eu bod nhw'n medru cerdded o Abyssinia i Awstralia , heibio New York a California... i gyd o fewn rhyw ddeg munud. Y gr锚d yw bod yr enwau yma wedi datblygu o'r mannau lle allforwyd y llechi.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwarel Dinorwig yn ei anterth

Bonc Matilda?

Mae gan rai o'r ponciau enwau fel Veronica, Enid, Matilda ac mae'n debyg taw enwau perthnasau perchnogion y chwarel, sef teulu St芒d y Faenol, teulu Assheton Smith, oedd rhain yn bennaf.

Matilda er enghraifft oedd gwraig Thomas Assheton Smith a dechreuwyd gloddio ar Bonc Matilda ar ddiwrnod ei phriodas 芒'r perchennog.

Un arall difyr yw Ponc Wembley. Mae'n debyg fod hwn wedi dechrau cael ei weithio tua 1923, sef yr adeg agorwyd stadiwm Wembley yn Llundain a dyma hefyd oedd adeg y Great Exhibition yn Wembley.

Roedd rhai ponciau yn dwyn enwau o'r Beibl - Tophet er enghraifft. Enw o'r Beibl am Uffern ydy Tophet a fedrwn ni ond dychmygu fod hwn yn bonc anodd i'w weithio.

Weithiau roedd y ponciau'n dwyn enwau mwy lleol fel Aberdaron a Llangristiolus; mwy na thebyg wedi'u henwi gan chwarelwyr o'r ardaloedd oedd efallai y rhai cyntaf i weithio ar y ponciau.

Enwau'n cael eu colli

Yn anffodus beth sydd wedi dechrau digwydd yw bod rhai o'r ardaloedd yma'n dechrau cael eu hailenwi. Mae ardal chwarel Dinorwig yn boblogaidd iawn ym maes awyr agored ac mae dringwyr o dros y ffin a hyd yn oed pobl leol wedi dechrau ail-fedyddio rhai o'r ponciau. Felly mae'r hen enwau Cymraeg yn dechrau mynd ar goll.

Er enghraifft, mae hen bonc Allt Ddu wedi ei ail-fedyddio'n Bus Stop Quarry, gan taw dyma lle roedd yr hen fws service yn troi ar 么l bod trwy Ddeiniolen.

Mae nifer o'r hen enwau ar gofnod, ond mae nifer sydd ddim. Felly eleni, 60 mlynedd ers cau'r chwarel, mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnal digwyddiad arbennig i apelio am unrhyw wybodaeth am rhai o'r hen enwau.

Y gobaith yw gallu mapio enwau'r holl bonciau, cyn bod nhw'n cael eu colli am byth.

Disgrifiad,

Chwe deg mlynedd ers cau'r chwarel, Cadi Iolen o'r Amgueddfa Lechi sy'n s么n am eu hymgyrch