成人快手

Ateb y Galw: Yr actores Lowri Gwynne

  • Cyhoeddwyd
Lowri GwynneFfynhonnell y llun, Lowri Gwynne

Yr actores Lowri Gwynne sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Meilir Rhys Williams yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Nes i gloi fy hun yn y bathr诺m pan oeddwn i'n fychan - tua 3 neu 4 mae'n si诺r - a methu dod o'na. Dwi dal efo ff卯ar o gael 'y nghloi mewn toilet.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Zack Morris o Saved by the Bell.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd canlyniad y refferendwm ar Brexit yn eitha' embarrasing.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Yn fy ngwaith mae'n si诺r. Dwi 'di gorfod cr茂o dipyn yn Rownd a Rownd yn ddiweddar.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna lawer o ddagrau wedi llifo yng Nglanyrafon yn ddiweddar wrth i Lowri (cymeriad Lowri ar Rownd a Rownd) orfod dewis rhwng Kelvin a Phillip

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n licio cael ffordd y'n hun.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Nes i dreulio lot o amser yn Y Rhyl yn fy mhlentyndod efo Nain a Taid a'r teulu. Mae'n lle sy'n agos iawn at 'y nghalon. Yn enwedig y Sun Centre (heddwch i'w lwch).

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd g锚m Cymru v Gwlad Belg yn yr Ewros yn Lille yn 2016 yn fythgofiadwy.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Work in progress.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Unrhywbeth gan Jon Ronson neu His Dark Materials gan Philip Pullman.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Armando Iannucci - y sgwennwr sydd yn gyfrifol am rai o fy hoff raglenni comedi fel Alan Partridge, The Thick of It, a Veep.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A-ha! Bydd Alan Partridge - y cymeriad sy'n gwneud i chi wingo - yn 么l ar ein sgriniau yn 2019

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i benelin metal. Nes i chwalu mhenelin tra ro'n i yn y coleg - mae sut nes i hynny yn stori arall...

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bwyta, yfed, chwerthin, dawnsio, cysgu.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

God only knows gan The Beach Boys.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bois yn eu hamgylchedd naturiol...

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi'n licio bwyta dipyn bach o bob dim, felly fysa lot o brydau sushi mewn bwyty Japaneaidd yn siwtio fi i'r dim.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Gareth Bale. Dwi'n chwarae p锚l-droed 5 bob ochr bob wythnos a dwi'n ofnadwy. 'Sa'n dda cael gweld sut deimlad fysa gallu chwara'n iawn.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dyfan Dwyfor

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw