Treialu diet newydd 800 calori i daclo 'epidemig' diabetes

Ffynhonnell y llun, PA

Bydd "epidemig" diabetes yn ein hwynebu yn y dyfodol heb newid ein ffordd o fyw, yn 么l dietegydd sydd wedi treialu diet 800 calori y dydd i geisio taclo'r broblem.

Daw neges Claire Chaudhry o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth i'r Gwasanaeth Iechyd gyhoeddi bod treialon yng ngogledd Cymru wedi arwain at "ganlyniadau calonogol".

Mae'r treialon yn rhan o gynllun pedair blynedd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒 diabetes ac annog pobl i "gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u ffordd o fyw".

Dywedodd Pat Andrews, o'r Waun ger Wrecsam, fod y cynllun wyth wythnos wedi "trawsnewid ei bywyd".

Yn 么l elusen Diabetes UK Cymru mae 191,000 o bobl yn byw gyda chlefyd siwgr yng Nghymru, cynnydd o 46% dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae cyfanswm o tua 60 o bobl wedi cymryd rhan yn y treialon, ac yn 么l dietegwyr fe wnaeth pob un lwyddo i golli pwysau.

Treialon pellach?

Ar gyfartaledd fe wnaeth oddeutu 50 o bobl sy'n byw gyda diabetes golli 10kg (22lb) yn ystod un cynllun prawf, yn 么l Ms Chaudhry.

Ychwanegodd bod rhai wedi gweld llai o angen i gymryd meddyginiaeth, tra bod eraill wedi colli'r angen yn llwyr.

Roedd 11 o bobl yn rhan o'r ail gynllun prawf - ar gyfer pobl oedd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 - a chafwyd canlyniadau tebyg o ran colli pwysau a sefydlogi lefelau glwcos.

Dywedodd Ms Chaudhry ei bod hi a'i chydweithwyr yn ceisio sicrhau digon o gyllid i allu cynnal treialon pellach.

Ffynhonnell y llun, Pat Andrews | 成人快手

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Pat Andrews ei bod hi'n teimlo yn "wych" ar ddiwedd y cynllun

Roedd Pat Andrews yn cael ei hystyried fel unigolyn oedd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, ond ar 么l cymryd rhan yn y cynllun prawf mae hi wedi colli 14kg (31lb) ac yn teimlo'n "wych".

Dywedodd bod yr wythnos gyntaf yn anodd wrth iddi orfod newid ei ffordd o fyw er mwyn cyd-fynd a gofynion y diet calori isel iawn.

"Roedd effaith y cynllun i'w weld mor sydyn roedd o'n gr锚t," meddai.

Dangosodd profion wedi'r diet bod lefel y glwcos yn ei gwaed wedi disgyn i'r lefel arferol.

"Ar y diwedd roedd gen i fwy o egni, yn fwy bywiog ac yn teimlo'n hapusach yn fy nghroen fy hun."