Adroddiad atal gwaith Wylfa Newydd yn 'achos pryder'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiadau y gallai'r holl waith ar safle Wylfa Newydd gael ei atal gan y datblygwyr yn "achos pryder" yn 么l Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Hitachi nad oes unrhyw "benderfyniad ffurfiol" wedi ei wneud am ddyfodol gorsaf niwclear newydd Ynys M么n.
Daw hynny ar 么l i'r Nikkei Asian Review adrodd bod disgwyl i fwrdd Hitachi benderfynu atal yr holl waith ar safle Wylfa Newydd yr wythnos nesaf.
Ddydd Gwener, dywedodd y cwmni bod atal y gwaith yn opsiwn: "Nid oes unrhyw benderfyniad ffurfiol wedi ei wneud ar hyn o bryd, er bod Hitachi wedi asesu Prosiect Horizon yn cynnwys y posibilrwydd o'i atal a'r effeithiau ariannol cysylltiedig."
'Perygl gwirioneddol'
Daw datganiad Hitachi yn dilyn dyfalu pellach eu bod yn ystyried cefnu ar Wylfa Newydd oherwydd cynnydd mewn costau adeiladu.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod mewn trafodaethau ffurfiol gyda'r cwmni o Japan am y cynllun ers mis Mehefin.
Cyhoeddodd Hitachi y byddai'n cymryd rheolaeth o'r cynllun yn 2012.
Y bwriad oedd gallu cynhyrchu trydan erbyn canol y 2020au, a bod yn weithredol am 60 o flynyddoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr adroddiadau fore Gwener yn "achos pryder".
"Mae hwn yn brosiect pwysig gyda buddion economaidd sylweddol i Gymru... Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus iawn a phwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth y gallai i sicrhau bod y prosiect yma'n dod i Ynys M么n."
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod yr adroddiadau'n "bryderus" ond mai s茂on oedden nhw o hyd.
Chafodd y mater ddim ei drafod gan Theresa May a phrif weinidog Japan, Shinzo Abe yn ystod ei ymweliad 芒'r DU ddydd Iau.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU: "Mae trafodaethau'n parhau gyda Hitachi ar ddod i gytundeb sy'n darparu gwerth am arian i gwsmeriaid a threthdalwyr o brosiect Wylfa.
"Maen nhw'n rai sy'n fasnachol sensitif a dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar s茂on."
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth nad dyma ydy'r adroddiadau cyntaf o'r fath, ond ei fod "wedi dod i'r casgliad nad ydyn ni wedi bod mewn sefyllfa cweit fel hyn o'r blaen".
Ychwanegodd bod "perygl gwirioneddol" am sawl rheswm, sy'n cynnwys y "risg mae Hitachi yn ei ystyried sydd ynghlwm 芒'r prosiect".
"Beth sydd ganddon ni fan hyn ydy prosiect sydd yn llawn risgiau ariannol, lle mae'r risg ariannol i gyd yn ystod y cyfnod adeiladu," meddai.
"Dydy rhedeg y gorsaf niwclear ddim yn llawer o risg o ran buddsoddiad unwaith mae o wedi ei adeiladu.
"Y cwestiwn ydy sut mae cyrraedd at y pwynt lle mae o'n barod i'w droi ymlaen pan fyddai'r buddsoddiad wedyn yn ddigon hawdd i'w gael.
"Mae'n ymddangos bod Japan a Prydain wedi methu dod i gytundeb yngl欧n 芒 sut i 'neud i'r cyfnod cychwynnol yma weithio."
'Gormod o sylw i Brexit'
Ychwanegodd AS Llafur Ynys M么n, Albert Owen, ei fod yn "poeni" ynghylch yr adroddiadau diweddaraf.
"Mae hyn yn cael effaith mawr, ddim jyst ar economi Sir F么n, ond gogledd Cymru i gyd," meddai ar raglen Taro'r Post 成人快手 Radio Cymru.
Ychwanegodd: "Mae 'na broblem dwi'n meddwl 'efo cael yr arian i brosiectau mawr ynni, ac mae'n rhaid i ni edrych ar hwnna.
"Dwi'n meddwl bod pob adran yn y llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio gormod ar Brexit, a 'dan ni ddim wedi bod yn edrych ar bethau fel hyn i wneud yn si诺r bod ni'n cael prosiectau mawr.
"Hwn ydy'r prosiect mwyaf yng Nghymru erioed, felly 'dan ni isio gwneud yn si诺r bod ni'n gwneud bob peth o ochr Prydain, ond yn anffodus dwi ddim yn gwybod beth sy'n digwydd ochr Japan."
Mae'r adroddiadau y gallai Hitachi atal gwaith wedi eu croesawu fodd bynnag gan ymgyrch PAWB (Pobl Atal Wylfa B), sydd yn gwrthwynebu'r atomfa.
"Os bydd hyn yn cael ei gadarnhau mewn cyfarfod o fwrdd Hitachi yr wythnos nesaf yna bydd yn rhyddhad i bob un ohonom sy'n poeni am ddyfodol ein hynys, ein gwlad, ein hiaith, yr amgylchedd ac yn wir am ynni cynaliadwy," meddai'r gr诺p mewn datganiad.
"Rhybuddiodd PAWB ers blynyddoedd fod y costau yngl欧n 芒 phrosiect Wylfa yn debygol o fod yn faen tramgwydd angheuol i'r prosiect, ond cawsom ein hanwybyddu."
Ychwanegodd y datganiad: "Mae Cymru yn gyforiog o adnoddau naturiol y gellir eu defnyddio i greu dyfodol ynni disglair a chynaliadawy, ac uwchlaw popeth creu mwy o swyddi mewn llai o amser nag a fyddai Wylfa yn ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018