Newid byd Esyllt Sears: O PR i stand-yp

Cafodd magu plant effaith annisgwyl ar y comed茂wr Esyllt Sears, gan ei sbarduno i newid gyrfa o PR i gomedi. Mae Esyllt yn siarad 芒 Cymru Fyw am y 'midlife crisis' wnaeth iddi newid byd a sut wnaeth hi ffeindio ei llais drwy wneud stand-yp.

Disgrifiad o'r llun, Esyllt yn perfformio ar raglen 'Stand Yp Cymru' ar S4C

'Dw i 'di bod yn gweithio yn y maes PR ers 17 mlynedd a 'wna'i fod yn onest 芒 chi, collais i lot o frwdfrydedd tuag at y proffesiwn pan ddigwyddodd y dirwasgiad diwethaf. Dim mwy o gardiau Amex heb uchafswm gwario na bar yn y swyddfa ar brynhawn dydd Gwener, ac yn sicr dim mwy o liquid lunches na press trips dramor.

Jest galw cynyddol gan gleientiaid i wneud mwy gyda llai.

Llai Ab Fab, mwy Ab Drab.

Er ei fod yn cael ei weld fel diwydiant creadigol, yn y byd cysylltiadau cyhoeddus ry'ch chi bob tro yn cynrychioli rhywun arall, yn sgwennu ar ran pobl eraill. Anaml iawn ydych chi'n cael rhwydd hynt i fynegi eich hun yn llwyr.

'Midlife crisis'

Ac mae cael plant yn gallu 'neud pethau rhyfedd i chi. Er enghraifft, sai 'di gallu chwarae'r g锚m Candy Crush ers cael y ferch. Pan 'o'n i'n ei disgwyl hi, ro'n i'n ei chwarae i drio anghofio am y nausea ofnadwy. Ond nawr, bob tro 'wi'n meddwl am y g锚m, mae'n codi cyfog arnai, fel achos clasurol o gyflyru... clasurol.

Ond ar 么l cael y mab, digwyddodd rhywbeth arall. Ges i midlife crisis cynnar. Pan oedd e'n wyth mis oed, penderfynais i mod i am roi cynnig ar wneud comedi stand-yp.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Felly dyma lle'r o'n i yn 2017. Dau blentyn, dwy i芒r, un ci, morgais ac yn sydyn, dim syniad o pwy o'n i; byth wedi eisiau cael fy niffinio fel mam, a ddim yn teimlo mai PR oedd y llwybr i fi bellach.

Un peth o'n i wastad wedi mwynhau ers dyddiau coleg, ond byth yn cael amser i'w wneud... na, ddim hynna... oedd sgwennu. Ond pan y baswn i'n sgwennu rhywbeth, bydde fe bob tro yn ddifrifol neu'n dywyll. Wnes i byth ystyried ysgrifennu comedi er taw dyna fy hoff genre.

Anfonais i gwpwl o j么cs i'r rhaglen Sgript Slam ar 成人快手 Radio Cymru, ac yna one-liners i raglen Newsjack 成人快手 4 Extra (a gafodd eu recordio ond eu torri yn y broses olygyddol!). Roedd hyn yn ddigon o sbardun i fi i feddwl o ddifrif ambyti datblygu fy sgiliau comedi.

Stand-yp

Y bwriad gyda'r stand-yp ei hun oedd gwneud un set er mwyn dysgu mwy am y broses o sgwennu j么cs a chael ymateb yn syth gan gynulleidfa.

O'r eiliad pan adawais i fy nh欧 yn ne Cymru i pan gerddais ar y llwyfan yn Wolverhampton (lleoliad lle na fyddai neb yn fy adnabod), do'n i methu teimlo fy wyneb o gwbl. Ond pan ddechreuais i'r set a chael y chwerthiniad cyntaf, dyma fi'n ymlacio'n llwyr.

Os y'ch chi byth wedi llwyddo i wneud i gr诺p o ffrindiau neu gydweithwyr neu deulu chwerthin, mae e'n teimlo fel yna ond gan mil gwaith gwell, gan mai dieithriaid y'n nhw... yn chwerthin ar rywbeth 'nathoch chi feddwl amdano a'i sgwennu.

Wrth i fi orffen fy set a cherdded oddi ar y llwyfan, ro'n i'n gwybod mod i bendant am ei wneud eto. Mae'r peth yn hollol addictive. Hyd yn oed pan chi'n cael gig wael (fy un i oedd yn y Mwmbwls pan ges i ddau chwerthiniad gwan iawn mewn 10 munud), ry'ch chi'n ceisio dysgu oddi wrtho a gwella.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Disgrifiad o'r llun, Mae Esyllt yn cyfuno gwaith llawrydd PR gyda'r gwaith comedi

Ffeindio fy llais

Dechreuais i 2018 gyda'r nod o wneud un gig y mis, ond 'wi 'di llwyddo i wneud 46, diolch i bobl sy' 'di rhoi cyfle i fi ac i chwiorydd sy' 'di bod yn fodlon gwarchod! Ac mae'r stand-yp wedi arwain at waith ysgrifennu ar gyfer y teledu a radio - rhywbeth sy' tu hwnt i be' allwn i fod wedi gobeithio.

Ond dyw hi ddim wedi bod yn hawdd. Does neb yn mynd fewn i gomedi am yr arian felly 'wi dal yn gwneud gwaith PR yn llawrydd ac mae jyglo hynna gyda gigs hwyr yn y nos, gyda'r g诺r tan yn ddiweddar wedi bod yn gweithio i ffwrdd pump diwrnod yr wythnos, wedi bod yn sialens. A 'wi hefyd yn ofnadwy o genfigennus o'r comed茂wyr iau sy' heb gyfrifoldebau ac 芒 blynyddoedd o'u blaenau i feistrioli eu crefft.

Ond wedi dweud hynny, 20 mlynedd yn 么l basen i ddim wedi cael yr hyder na'r deunydd i ystyried gwneud y fath beth. Yn sicr, wrth fynd yn h欧n, 'wi'n poeni llai am yr hyn mae pobl yn ei feddwl ohona'i.

Un bywyd 'y'n ni i gyd yn cael ac ar ei ddiwedd, base well 'da fi ddifaru gwneud rhywbeth na difaru peidio gwneud rhywbeth.

Efallai o ddiddordeb